Trydaneiddio rheilffordd y gogledd?

Mae Gweinidog Trafnidiaeth Cymru, Carl Sargeant, wedi cyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio llunio cynllun busnes er mwyn trydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru.

Bydd y llywodraeth yn cydweithio ar y cynllun gyda'r consortiwm trafnidiaeth rhanbarthol Taith.

Cadarnhaodd Mr Sargeant y byddai'r cynllun yn cynnwys holl fuddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol i ogledd Cymru.

Fe fydd y cynllun newydd yn manteisio ar waith blaenorol, gan gynnwys Astudiaeth Drafnidiaeth Gogledd-Ddwyrain Cymru.

Sbardun

Wrth wneud y cyhoeddiad, dywedodd Mr Sargeant: "Dw i am weld gogledd Cymru yn cael ei chysylltu'n iawn â seilwaith trydan y DU, a chysylltiadau effeithiol ar draws y ffin.

"Mae blaenoriaethau ein Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol yn cydnabod bod trafnidiaeth yn sbarduno sawl agwedd ar economi Cymru, a byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar wneud y prif goridorau ffyrdd a rheilffyrdd o'r dwyrain i'r gorllewin yn fwy dibynadwy, a'u galluogi i gludo mwy o deithwyr.

"Mae moderneiddio rheilffordd gogledd Cymru yn elfen hollbwysig o'r uchelgais hwn.

"Yn wir, mae'n bosib y bydd hyn yn gwella gwasanaethau rheilffyrdd yn fawr, ac yn rhoi hwb i economi'r rhanbarth.

"Bydd hynny, yn ei dro, yn helpu i drechu tlodi."

'Achos cadarn'

Dywedodd y Cynghorydd Mike Priestley, Cadeirydd Taith: "Mae datblygu rhwydwaith rheilffyrdd y rhanbarth, er mwyn cefnogi twf economi gogledd Cymru, yn elfen hollbwysig o'n strategaeth drafnidiaeth.

"Byddwn yn gweithio gyda'r Gweinidog, arweinwyr yr awdurdodau lleol a'r cyd-fyrddau, a rhanddeiliaid allweddol eraill i sicrhau bod yr achos busnes yn un cadarn, a'i fod yn cysylltu â chynlluniau posibl eraill i fuddsoddi yn rheilffyrdd y wlad."

Bu Mr Sargeant yn cwrdd ag Ysgrifennydd Trafnidiaeth San Steffan, Patrick McLoughlin, ym mis Tachwedd y llynedd er mwyn pwysleisio pwysigrwydd moderneiddio rheilffordd y gogledd er mwyn gwella cysylltiadau â'r rhanbarth.

Daw cyhoeddiad y gweinidog yn dilyn cyhoeddiad cwmni Network Rail yn gynharach yn yr wythnos yn amlinellu sut y byddan nhw'n gwario buddsoddiad mawr yn y rheilffyrdd yng Nghymru.

Roedd eu cynlluniau yn datgan yr amserlen i drydaneiddio'r lein rhwng Llundain ac Abertawe a hefyd rheilffyrdd y cymoedd, yn ogystal â gwaith ar signalau a thrac i wella'r rhwydwaith ar draws Cymru.