Â鶹ԼÅÄ

Bwriad i agor swyddfeydd post Cymru?

  • Cyhoeddwyd
Llun o Lanwnnen yn 2007
Disgrifiad o’r llun,

Caeodd swyddfa bost a siop Llanwnnen yn 2011

Mae cymunedau Cymru yn gyfarwydd â swyddfeydd post yn cau mewn pentrefi yn ystod y degawd diwethaf.

Ond mae cynllun ar droed gan Swyddfa'r Post i ailagor canghennau ar safleoedd busnesau.

Mae'r newidiadau yn rhan o raglen fuddsoddi dros gyfnod o dair blynedd pan fydd tua hanner 12,000 o ganghennau Swyddfa'r Post yn cael eu troi'n ganghennau o fath newydd.

Yn ôl Swyddfa'r Post, mae'r buddsoddiad yn golygu na fydd unrhyw raglenni pellach i gau canghennau fel digwyddodd rhwng 2007 a 2009, pan gafodd 157 swyddfa bost eu cau.

Ymgynghoriad lleol

Bydd £1.34 biliwn gan Lywodraeth y DU yn cael ei wario ar foderneiddio'r rhwydwaith drwy gynllun Swyddfa'r Post Lleol.

Mae 14 cangen Swyddfa'r Post Lleol eisoes wedi agor yng Nghymru ac mae 12 arall yn rhan o ymgynghoriad fydd yn para chwe wythnos.

Mae'r canghennau hyn yn cynnig ystod eang o wasanaethau Swyddfa'r Post ond does dim gwasanaeth adnewyddu treth car na gwasanaeth pasport.

Un o'r rheiny yw'r swyddfa bost ym Mhentre-bach ger Llanwnnen yng Ngheredigion.

Caeodd yr hen swyddfa bost yno ym mis Rhagfyr 2011 ond mae bwriad i agor y gangen newydd yn Central Garage ym mis Ionawr.

Dywedodd perchennog y garej, Mike Jones, fod gwir angen y gwasanaeth yn yr ardal.

'Ffyddiog'

"Does dim swyddfa bost yn gwasanaethu pentrefi Llanwnnen, Drefach, Cwrtnewydd, Cwmsychbant, Gorsgoch a Chribyn, felly roeddwn i'n meddwl y byddai'n syniad da i agor swyddfa bost yma," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwenda Parry wedi bod yn paratoi am flwyddyn cyn medru agor Swyddfa'r Post ym Moelfre

"Mae pobl leol wedi dweud wrthyf eu bod yn rhyfedd o falch i gael y gwasanaeth oherwydd ni fydd yn rhaid iddyn nhw deithio i Lanbed neu Lanybydder i ddefnyddio swyddfa'r post."

Dywedodd Ymgynghorydd Newidiadau Maes Swyddfa'r Post, Lisa Barton: "Mae'r is-bostfeistr newydd a minnau'n ffyddiog y bydd y gangen fodern newydd hon yn fwy hwylus o ran cynnig gwasanaeth i'n cwsmeriaid ac y bydd yn diogelu gwasanaethau ar gyfer y dyfodol."

Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar Ragfyr 18, 2012.

Fe gaeodd Swyddfa Post pentref Moelfre ar Ynys Môn tua phedair blynedd yn ôl.

Ers hynny mae'r trigolion wedi gorfod teithio i drefi Benllech neu Amlwch er mwyn cael gwasanaethau.

'Sachau yn llawn nwyddau'

Ond agorodd Swyddfa'r Post Lleol yn y 'Rhen Fecws yn y pentref ym mis Hydref.

Dywedodd y perchennog, Gwenda Parry, fod y swyddfa ar agor yr un oriau â'r siop, sef o 7:30am bob bore tan y bydd y siop yn cau gyda'r nos, ac y mae hefyd ar agor ar benwythnosau.

"Mae'n golygu y byddwn ni'n agored am fwy o oriau na Swyddfeydd Post arferol," meddai.

"Rydym wedi bod yn brysur iawn ac ry'n ni wedi synnu faint o bobl sy'n defnyddio'r swyddfa am eu bod yn gwerthu nwyddau ar y we.

"Mae rhai pobl yn dod â sachau yn llawn nwyddau yma.

"Rydym hefyd wedi synnu bod gymaint o bobl yn dal i godi eu pensiwn ar fore Llun er eu bod yn gallu ei godi unrhyw bryd erbyn hyn."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r Â鶹ԼÅÄ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol