Papur Gwyn: 'Taclo trais yn y cartref'

Ffynhonnell y llun, SPL

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd y Gweinidog Cymunedau, Carl Sargeant, fod "bylchau" o ran yr help sydd ar gael i fenywod

Bydd disgyblion yn cael eu haddysgu am berthynas iach fel rhan o ymdrech i daclo trais yn y cartref.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu cynlluniau i newid agwedd pobl ynglŷn â thrais yn erbyn menywod a gwella gwasanaethau i ddioddefwyr.

Mae'r papur gwyn yn cynnwys ymrwymiad y dylai pob ysgol yng Nghymru ddarparu addysg am berthynas iach.

Dywedodd y Gweinidog Cymunedau, Carl Sargeant, fod "bylchau" o ran y cymorth sydd ar gael i fenywod sy'n dioddef trais yn y cartref.

'Gofyn a gweithredu'

Bydd y Mesur, l Rhoi Terfyn ar Drais yn Erbyn Menywod a Cham-drin Domestig, yn galluogi cynghorau a byrddau iechyd i asesu pa wasanaethau sydd eu hangen gan ddioddefwyr.

Bydd swydd newydd, sef cynghorydd annibynnol i'r Gweinidog, yn cael ei chreu gyda phwerau i ymchwilio i weld a yw cyrff cyhoeddus yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth.

Mae yna gymal hefyd i sefydlu fframwaith hyfforddi yn y maes ar gyfer staff rheng flaen.

Dywed swyddogion fod y cymorth sydd ar gael i ddioddefwyr yn "anghyson" .

Maen nhw am i wasanaethau gydweithio a rhannu gwybodaeth am bobl sy'n agored i niwed.

Mae Heddlu Gwent eisoes yn cynnal cydalwadau ag asiantaethau eraill i fynd i'r afael ag achosion o gam-drin yn y cartref.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod am ymyrryd yn gynharach i ddelio â'r fath achosion.

'Deddfwriaeth arloesol'

Maent yn amcangyfrif bod delio â'r broblem yn costio £300 miliwn y flwyddyn i wasanaethau cyhoeddus a bod £100miliwn yn cael ei golli mewn cynnyrch economaidd.

Canfu ymchwil gan banel o arbenigwyr fod cysylltiad cryf rhwng pobl yn tystio trais yn y cartref a'r tebygolrwydd y byddant yn dreisgar yn ddiweddarach yn eu bywydau.

Gwnaeth arolwg o agwedd pobl gan gwmni Ipsos Mori yng Nghymru a Lloegr ganfod bod 14% o ddynion a 19% o fenywod yn meddwl ei fod yn dderbyniol, o dan rai amgylchiadau, i ddyn daro neu slapio ei wraig neu gariad os oedd hi'n ei dwrdio neu'n cwyno amdano'n gyson.

Canfu Amnest Rhyngwladol fod 22% o bobl yn meddwl bod menyw o leiaf yn rhannol gyfrifol am gael ei threisio os oedd hi wedi cael rhyw gyda nifer o bartneriaid.

Dywedodd Mr Sargeant fod rhai gwelliannau wedi eu gwneud ond bod "bylchau o ran darpariaeth y gwasanaethau yn dal i fodoli ac na allwn ni ddibynnu ar ewyllys da, ffawd nac unigolion i wneud gwahaniaeth".

"Rwy'n credu bod genyn ni ddyletswydd i daclo'r mater hwn ac rwy'n credu bod y ddeddfwriaeth - sydd wed ei hamlinellu yn y papur gwyn - yn ein helpu i gymryd camau mawr i lwyddo i orffen trais yn erbyn menywod, trais yn y cartref a thrais rhywiol yng Nghymru."