Ymweliad swyddogion Hitachi â'r Wylfa

Disgrifiad o'r llun, Dechreuodd yr Wylfa gynhyrchu ynni yn 1971

Bydd swyddogion cwmni Hitachi o Japan yn ymweld ag Ynys Môn ar ôl y cyhoeddiad eu bod wedi prynu prosiect niwclear Horizon.

Mae'r prosiect yn cynnwys datblygu atomfa newydd ar safle'r Wylfa.

Mae'n gynllun gwerth £8 biliwn ac y gallai hyd at 6,000 o swyddi gael eu creu wrth i'r adweithyddion newydd gael eu hadeiladu.

Bydd y swyddogion yn cyfarfod â grwpiau lleol a gwleidyddion yn Llangefni.

Mae'n debyg y bydd gweithwyr o Siapan yn cael eu cyflogi yno pan fydd y gwaith yn dechrau.

Ac yn ôl Ysgrifennydd Cymru, David Jones, ar sail ystyriaethau masnachol y bydd y cwmni'n penderfynu faint o bobl leol fydd yn cael gwaith.

Ynni niwclear

Fe wnaeth perchnogion Horizon, cwmnïau E.ON ac RWE o'r Almaen, roi'r prosiect ar werth ym mis Mawrth am nad oedden nhw am fwrw 'mlaen gyda chynllun i godi atomfa newydd.

Cyhoeddodd y gwerthwyr bod y consortiwm o dan arweiniad Hitachi wedi ei werthu am £696 miliwn ac mae disgwyl i'r trosglwyddiad gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Tachwedd.

Horizon oedd â'r drwydded i adeiladu Wylfa B.

Mae hefyd yn cynnwys codi gorsaf newydd yn Oldbury, Sir Gaerloyw.

Cytunodd Hitachi, sy'n ennill ychydig o dan 10% o'u holl werthiant o'r adran systemau pŵer, yn ffurfiol i brynu Horizon mewn cyfarfod o'r bwrdd ddydd Mawrth.

Cafodd Horizon ei roi ar werth oherwydd pwysau o'r Almaen wedi iddyn nhw benderfynu cael gwared ar ynni niwclear yn raddol wedi damwain Fukushima.

Yn gynharach y mis hwn, fe wnaeth consortiwm ar y cyd rhwng cwmnïau o Ffrainc a China roi'r gorau i gynlluniau i wneud cais i godi atomfa newydd ar Ynys Môn am y tro.

Ni wnaeth Corfforaeth Niwclear Guangdong ac Areva roi cais i mewn erbyn y diwrnod cau ar gyfer ceisiadau.

Cafodd cynllun Horizon ei sefydlu yn 2009 er mwyn codi gorsafoedd niwclear yn lle'r atomfeydd Magnox 40 oed yn Wylfa ac Oldbury.

Mae disgwyl i'r Wylfa barhau i gynhyrchu ynni tan Medi 2014 - neu cyn hynny os yw'r gallu i gynhyrchu yn pylu.

Yr Wylfa yw'r unig orsaf Magnox sy'n parhau i gynhyrchu ynni.