Priodasau hoyw 'ymhen 10 mlynedd'

Ffynhonnell y llun, PA

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Dr Jeffrey John wrth raglen Taro Naw y bydd rhaid i'r Eglwys groesawu cyplau hoyw i'r allor

Mae clerigwr amlwg wedi dweud y gall gymryd 10 mlynedd cyn y bydd priodasau unrhywiol yn digwydd yn yr eglwys.

Dywedodd y Gwir Barchedig Jeffrey John, o Donyrefail yn y Rhondda, wrth Â鶹ԼÅÄ Cymru y bydd yn rhaid i'r eglwys yn y pen draw groesawu cyplau hoyw i'r allor.

Daw ei sylwadau wrth i lywodraeth y DU baratoi i ymateb i ymgynghoriad ar gyfreithloni priodasau unrhywiol.

Roedd Dr John yn siarad gyda rhaglen materion cyfoes Â鶹ԼÅÄ Cymru ,Taro Naw.

'Dau gam tu ôl'

"Rwy'n hyderus iawn," meddai.

"Mae'r prif weinidog am weld priodasau unrhywiol yn gyfreithlon erbyn 2015, ac rwy'n siŵr y bydd hynny'n digwydd."

Mae Dr John wedi bod gyda'i bartner, caplan gydag Eglwys Lloegr, ers bron 40 mlynedd, a daeth y ddau yn bartneriaid sifil yn 2006.

Ychwanegodd Dr John: "Rwy'n credu cyn hir y gwelwn ni rhyw fath o wasanaeth swyddogol o fewn yr Eglwys i fendithio partneriaethau hoyw, ond nid priodasau unrhywiol.

"Rwy'n credu y daw hynny, ond fe allai gymryd 10 mlynedd arall. Dyna sut mae'r Eglwys yn gweithio, bod tro dau gam y tu ôl i bawb arall."

Mynnodd y dylai cyplau hoyw gael yr un hawliau â chyplau heterorywiol i briodi.

"Rwyf wedi bod mewn perthynas am 37 mlynedd, ac fe allaf dystio bod y cyfamod rhwng dau berson o'r un rhyw yn union yr un peth ag ydyw mewn priodas rhwng gŵr a gwraig - does dim gwahaniaeth," meddai.

"Ond cyn belled ag y mae gwahaniaeth cyfreithiol rhwng priodasau a phartneriaethau sifil, mae'n sicr y bydd partneriaethau yn cael eu gweld fel rhywbeth eilradd."

Apartheid

Yn y rhaglen, mae'n cymharu gwahaniaethu rhwng hawliau cyplau heterorywiol a hoyw gyda'r sefyllfa yn Ne Affrica yn ystod apartheid.

"Unig bwrpas apartheid oedd sicrhau nad oedd cydraddoldeb rhwng pobl wyn a phobl ddu. Yn yr un modd, mae gwahaniaethu rhwng priodasau heterorywiol a phartneriaethau sifil yn golygu bod cyplau hoyw yn cael eu gweld yn israddol. Mae'n gwbl annerbyniol," meddai.

Wrth annerch corff llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru ym mis Ebrill, dywedodd Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan, bod y ddadl am briodasau unrhywiol yn un "sydd yn rhaid ei chael".

Ond mae'r Canon Philip Wyn Davies, ficer Tregaron yng Ngheredigion, yn erbyn priodasau unrhywiol.

"Mae dysgeidiaeth y Beibl yn dweud wrthym fod priodas yn rhywbeth unigryw i ddyn a menyw," meddai.

"Byddai mynd yn groes i hynny yn gwrth-ddweud geiriau Crist ei hunan. Pa bynnag ffordd yr ydych yn gweld partneriaeth rhwng cyplau o'r un rhyw, yn sicr dyw e ddim yn briodas."

Bydd Taro Naw yn cael ei darlledu ar S4C nos Fawrth, Hydref 16 am 9:00pm.