Dathlu penblwydd Nant Gwrtheyrn yn 30 oed

Ffynhonnell y llun, NAnt Gwrtheyrn

Disgrifiad o'r llun, Mae modd aros yn Y Nant a dysgu'r iaith yno

Mae 'na 30 mlynedd ers i griw o ddysgwyr a thiwtoriaid ymgasglu a chynnal y wers Gymraeg gyntaf yn Nant Gwrtheyrn.

Roedden nhw mewn tÅ· teras oedd newydd ei adnewyddu.

Doedd yr amgylchiadau ddim yn gwbl gartrefol a'r cyfleusterau cynnar yn rhai cyntefig.

Ond ers hynny mae miloedd o fyfyrwyr o Gymru a thu hwnt yn mentro yn flynyddol i lawr i'r pentre' i ddysgu a gwella eu Cymraeg.

Bellach caiff y myfyrwyr lety 4 seren a dysgu'r iaith mewn moethusrwydd.

Mae'r ganolfan wedi ei lleoli yn y Nant, i lawr lôn droellog serth oddi ar Lithfaen ym Mhen Llŷn.

Yn ogystal â gwersi iaith, mae'r Nant yn lleoliad delfrydol ar gyfer priodasau a dathliadau, ac yn gyrchfan poblogaidd ar gyfer ymwelwyr dyddiol.

"Mae newidiadau anhygoel wedi bod yn y Nant yn ystod y chwe blynedd diwethaf ac mae'r pentre' cyfan yn fyw eto," meddai Jim O'Rourke, Ymgynghorydd Gweithredol.

'Edrych ymlaen'

Dywedodd Mair Saunders, Rheolwr Cyffredinol y Nant, ei bod yn "ymfalchïo" i gael gweithio mewn lle "mor eiconig".

"Dwi'n edrych ymlaen at yr her o adeiladu busnes y ganolfan yn y dyfodol."

Ffynhonnell y llun, NAnt Gwrtheyrn

Disgrifiad o'r llun, Y rhain oedd y criw a fynychodd y cwrs cyntaf yn y Nant, Pasg 1982

Wedi profiad o ddysgu yn y Nant dros yr haf dywedodd un o'r myfyrwyr: "Roedd y cwrs yn wych, felly hefyd y lefel o ddysgu.

"Fe wnes i fwynhau'r wythnos llawer mwy na'r disgwyl."

Dywedodd Rheolwr Addysg y ganolfan, Pegi Talfryn, ei bod yn "fraint cael croesawu grwpiau newydd o ddysgwyr yno'n wythnosol.

"Mae eu hymroddiad i ddysgu'r iaith yn ysbrydoliaeth i ni i gyd," meddai.

I ddathlu 30 mlynedd o ddysgu yn y Nant bydd parti penblwydd arbennig yn cael ei gynnal yno ddydd Sul.

Mae'r dathliadau'n dechrau am 1.30pm gyda sioe sleidiau, a ddilynir gan barti pan fydd Sylfaenydd y Nant, y Dr Carl Clowes yn rhannu ei brofiadau o ddyddiau cynnar y Nant.

Bydd yr Aelod Cynulliad, David Melding yno hefyd i rannu ei brofiad o ddysgu Cymraeg yn y Nant a bydd cacen arbennig yn cael ei thorri.

Yn ogystal bydd darlun newydd o Rhys a Meinir gan yr artist Roy Guy yn cael ei ddadorchuddio.

Mae Rhys a Meinir yn rhan o chwedloniaeth y Nant.

Bwriad y diwrnod yw cynnal diwrnod o ddathlu, atgofion a chydnabyddiaeth am yr ymdrechion a wnaed gan unigolion dirifedi dros y blynyddoedd i gyfrannu at lwyddiant Nant Gwrtheyrn.