Â鶹ԼÅÄ

Cameron yn dal i drafod diwygio Etholiadau Cynulliad

  • Cyhoeddwyd
David Cameron mewn canolfan addysg awyr agored yn Sir Fynwy
Disgrifiad o’r llun,

David Cameron mewn canolfan addysg awyr agored yn Sir Fynwy ddydd Mawrth

Mae'r Prif Weinidog David Cameron wedi dweud bod cynlluniau i ddiwygio Etholiadau'r Cynulliad yn parhau er gwaetha' anghydfod rhwng y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn San Steffan.

Roedd Ysgrifennydd Cymru Cheryl Gillan wedi dweud ei bod am gwtogi nifer yr Aelodau Cynulliad sy'n cael eu hethol yn uniongyrchol neu newid maint etholaethau.

Ond mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn am fwy o eglurder yn sgil ffrae rhwng y glymblaid oherwydd newidiadau i DÅ·'r Arglwyddi.

Yn Sir Fynwy ddydd Mawrth dywedodd Mr Cameron y byddai trafodaethau ar batrwm etholaethol Cymru yn mynd yn eu blaenau.

'Ymgynghoriad'

Wrth ymateb i gwestiwn am ddyfodol y papur gwyrdd ar y mater, dywedodd: "Mae 'na ymgynghoriad yn mynd rhagddo ar siâp etholaethau Cymru a faint ohonynt sy'n cael eu hethol yn uniongyrchol a faint sy'n cael eu hethol yn gyfrannol.

"Mae'r ymgynghoriad yna'n mynd yn ei flaen ac rwy'n edrych 'mlaen i glywed barn yr holl bleidiau ac wedyn, wrth gwrs, bydd yn rhaid gwneud penderfyniad."

Yn y cyfamser, dywedodd y Prif Weinidog ei fod "yn wfftio" honiadau fod ei blaid wedi torri cytundeb clymbleidiol gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Cafodd cynlluniau i ddiwygio TÅ·'r Arglwyddi eu rhoi i'r neilltu wedi i'r Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg honni bod y Ceidwadwyr wedi "torri cytundeb y glymblaid".

Dywedodd Mr Cameron nad oedd eisiau i Lywodraeth y DU fod yn "sownd" mewn trafodaeth yn lle delio â'r economi.

Roedd ei sylwadau pan aeth i ganolfan addysg awyr agored yn y Gilwern yn Sir Fynwy fel rhan o daith hyrwyddo chwaraeon o gwmpas y DU.

'Herio'

Ddydd Llun roedd Mr Clegg wedi cyhuddo'r Ceidwadwyr o dorri cytundeb y glymblaid drwy beidio â chefnogi cynlluniau fyddai wedi arwain at ethol y rhan helaeth o Arglwyddi.

Oherwydd hyn dywedodd na allai Aelodau Seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol gefnogi newidiadau dan arweiniad y Ceidwadwyr i newid ffiniau Seneddol yn 2015.

Byddai'r cynlluniau wedi arwain at ostwng nifer yr Aelodau Seneddol yng Nghymru o 40 i 30.

Dywedodd Mr Cameron wrth Â鶹ԼÅÄ Cymru y byddai'n herio pob Aelod Seneddol i gefnogi'r cynlluniau ond "fod yn rhaid i bob plaid wneud ei phenderfyniad ei hun sut i bleidleisio".

Mae eisoes wedi ymweld â'r Alban a Gogledd Iwerddon dros yr wythnos ddiwetha'.

Wrth i Dîm Prydain barhau i ennill medalau Olympaidd, mae'r Prif Weinidog am annog plant a phobl ifanc i ymddiddori mewn chwaraeon.

°Õî³¾

Yn y ganolfan addysg awyr agored ddydd Mawrth roedd yn siarad â phobl ifanc oedd ar gwrs, un o brosiectau'r llywodraeth.

Bu'n eu helpu wrth iddyn nhw ddringo waliau fel rhan o ymarferion dysgu bod yn rhan o dîm.

Wedyn bu'n gofyn iddyn nhw sut oedden nhw'n elwa o'r rhaglen.

Yn ystod ei daith o amgylch y DU mae Mr Cameron wedi cefnogi cais Glasgow i gynnal Gemau Olympaidd yr Ifanc yn 2018.

Fe deithiodd hefyd i Coleraine, Gogledd Iwerddon.

Aeth i Glwb Rhwyfo Bann ble bu'r brodyr Richard a Peter Chambers ac Alan Campbell yn hyfforddi - ill tri wedi ennill medalau yn y gemau.