Efa'n ennill cystadleuaeth celf Â鶹ԼÅÄ Cymru

Disgrifiad o'r llun, Efa Thomas, myfyrwraig yng Nghaerdydd, yw enillydd cyfres 'The Exhibitionists'

Efa Thomas yw enillydd cystadleuaeth celf Â鶹ԼÅÄ Cymru am drefnu arddangosfa yn Amgueddfa Cymru.

Roedd Efa, sy'n wreiddiol o Gricieth, a phedwar cystadleuydd arall ar gyfres deledu 'The Exhibitionists'.

Bu'n rhaid i'r cystadleuwyr ddewis eitemau o gasgliad yr amgueddfa a dysgu sut i'w harddangos.

Dyma'r tro cyntaf i'r amgueddfa roi mynediad i'w holl gasgliad o weithiau celf, gan gynnwys paentiadau, ffotograffau a cherameg i aelodau'r cyhoedd.

"Fe wnes i gymryd rhan yn 'The Exhibitionists' oherwydd dwi bob amser am roi cynnig ar bethau newydd," meddai Efa.

"Dwi'n meddwl ei bod hi'n wych bod yr Amgueddfa wedi rhoi cyfle i aelodau o'r cyhoedd.

"Dyma ein hamgueddfa genedlaethol ni ac mae'n perthyn i bob person yng Nghymru."

'Creadigrwydd'

Yn y rhaglen olaf a ddarlledwyd nos Fercher Gorffennaf 18 roedd Efa a Julia Manser o Abertawe, y ddwy yn rownd derfynol y gystadleuaeth, yn cynnal eu harddangosfeydd eu hunain.

Cafodd y ddwy gefnogaeth Osi Rhys Osmond, uwch-ddarlithydd celf ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe, a Karen MacKinnon, curadur yn Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe.

"Mae'r rhaglen, a'r mentoriaid, wedi hybu fy nghreadigrwydd ac wedi fy annog i weithio'n annibynnol a gwneud beth bynnag roeddwn i eisiau," meddai Efa.

"Dwi'n amau a fyddwn i fyth wedi gwneud unrhyw beth fel hyn heblaw am y rhaglen.

"Mae'n dangos ein bod ni i gyd yn gallu bod yn greadigol ac i gyd yn gallu curadu arddangosfeydd sy'n deilwng o gael eu dangos yn Amgueddfa Cymru gan fod gennym i gyd straeon i'w hadrodd."

Mae arddangosfa Efa yn Amgueddfa Cymru yng Nghaerdydd tan Awst 19.