Trydaneiddio'r lein i Abertawe yn rhan o fuddsoddiad ehangach o £9bn

Disgrifiad o'r llun, Bydd y daith 20 munud yn llai o Lundain Paddington i Abertawe

Mae Llywodraeth Prydain wedi cyhoeddi manylion cynllun i fuddsoddi £9 biliwn ar wella'r rheilffyrdd.

Mae'r cyhoeddiad yn cynnwys trydaneiddio rheilffordd y Great Western o Lundain, yr holl ffordd i Abertawe.

Disgrifiad o'r sainAdroddiad Catrin Heledd o orsaf drenau Abertawe

Bydd rhan helaeth o reilffyrdd y cymoedd yn cael eu trydaneiddio hefyd gan gynnwys Glyn Ebwy, Maesteg, Merthyr Tudful a Bro Morgannwg.

Mae ymestyn y cynllun o Lundain i Abertawe yn golygu cwtogi'r daith o 20 munud rhwng Paddington ac Abertawe.

Trydaneiddio

Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, gyhoeddodd y manylion fore Llun.

Mae gwleidyddion yn ystyried y cyhoeddiad yn 'hwb i'r economi'.

Mae Carwyn Jones a Carl Sargeant, y gweinidog â chyfrifoldeb am drafindiaeth yng Nghymru wedi croesawu'r cyhoeddiad hefyd.

Dywedodd Mr Jones eu bod yn falch y bydd y rheilffordd yn cael ei drydaneiddio yr holl ffordd i Abertawe a bod rheilffordd y cymoedd hefyd yn mynd i elwa.

"Mae buddsoddi yn ein strwythur rheilffordd yn allweddol wrth edrych ar wella'r gystadlaeuaeth economaidd."

Ychwanegodd Mr Sargeant bod y newyddion am reilffordd y cymoedd y "cam cyntaf tuag at gwireddu fy ngweledigaeth am strwythur modern ar draws Cymru gyfan".

"Gallwn adeiladu ar hyn."

'Buddsoddiad'

Dywedodd Ms Gillan y byddai'r cynllun yn golygu y byddai 66% o boblogaeth Cymru yn medru teithio ar lein wedi ei thrydaneiddio o'u gorsaf leol.

"Bydd y cyhoeddiad yn golygu bod dros £350 miliwn yn cael ei fuddsoddi'n uniongyrchol mewn isadeiledd rheilffyrdd Cymru ac mae'n dilyn y buddsoddiad o £1 biliwn i'r cynllun i drydaneiddio prif lein Great Western o Lundain i Gaerdydd a'r £500 miliwn fuddsoddwyd yn y ddolen orllewinol i Heathrow.

"Mae rhaglen Llywodraeth Cymru i foderneiddio rhwydwaith y rheilffyrdd yn golygu y bydd Cymru'n elwa'n uniongyrchol ac anuniongyrchol o bron i £2 biliwn.

"Hwn yw'r cyhoeddiad isadeiledd mwyaf arwyddocaol i Gymru am ddegawdau."

Cyhoeddodd gweinidogion y llynedd y byddai'r brif lein yn cael ei thrydaneiddio mor bell â Chaerdydd.

Ond roedd 'na feirniadaeth nad oedd yn cael ei ymestyn.

Ers cyhoeddiad y llywodraeth y pryd hynny mae 'na ymgyrchu brwd wedi bod gan wleidyddion a busnesau i geisio ymestyn y cynllun hyd at Abertawe.

Mwy o deithwyr

Ynghyd â lleihau amseroedd teithio mae'r penderfyniad yn golygu y bydd modd rhedeg trenau hirach ar y lein i Abertawe.

Bydd gan y trenau newydd naw cerbyd yn lle wyth a bydd modd cludo mwy o deithwyr.

Mae'r cynllun yng Nghymru yn costio £350 miliwn a disgwyl iddo gael ei gwblhau erbyn 2017.

Ym mis Mai, daeth grŵp o fusnesau a sefydliadau at ei gilydd yn Abertawe i gyflwyno'u dadleuon o blaid trydaneiddio, gan gynnwys Virgin Media, Virgin Atlantic, Admiral, Amazon, Prifysgol Abertawe a'r Post Brenhinol.

Mae Gweinidog Trafnidiaeth Cymru, Carl Sargeant, wedi dweud bod trydaneiddio lein y Great Western i Abertawe a leiniau'r cymoedd yn "hanfodol".