Â鶹ԼÅÄ

Rhwyg ymhlith Ceidwadwyr am ddiwygio TÅ·'r Arglwyddi

  • Cyhoeddwyd
TÅ·'r ArglwyddiFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r llywodraeth glymblaid am weld ail siambr sy'n llai a'r mwyafrif wedi eu hethol

Mae dros 100 o aelodau'r Blaid Geidwadol yn bygwth gwrthryfela yn erbyn y Llywodraeth ar gynlluniau i ddiwygio'r TÅ·'r Arglwyddi.

Mae'r Â鶹ԼÅÄ wedi cael ar ddeall fod dros 70 wedi arwyddo llythyr yn erbyn diwygio TÅ·'r Arglwyddi, yn eu plith Guto Bebb (Aberconwy) ac Alun Cairns (Bro Morgannwg).

Nos Fawrth fe fydd yr ASau yn pleidleisio ar amserlen ar gyfer y mesur wedi i'r drafodaeth gychwyn ddydd Llun.

Gall hyn olygu fod David Cameron yn colli pleidlais yn y Senedd am y tro cyntaf ers iddo ddod yn Brif Weinidog yn 2010.

Roedd yna anhapusrwydd ar feinciau'r Tŷ'r Arglwyddi ddydd Llun hefyd ynglŷn â'r cynlluniau.

Mae'r llywodraeth yn San Steffan am weld ail siambr lai ac un gyda'r mwyafrif wedi eu hethol.

Fe allai'r penderfyniad achosi rhwyg yn y glymblaid o ystyried fod diwygio TÅ·'r Arglwyddi yn flaenoriaeth i'r Democratiaid Rhyddfrydol.