Etholaethau: 'Smonach go iawn' medd y cyn Ysgrifennydd Gwladol Paul Murphy

Ffynhonnell y llun, Other

Disgrifiad o'r llun, Ar hyn o bryd mae ffiniau etholaethau'r Cynulliad yn union fel etholaethau San Steffan.

Mae un o weinidogion y llywodraeth yn gwadu fod y Prif Weinidog, David Cameron, wedi rhoi addewid i Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones yn ymwneud â newid trefniadau etholiadol y Cynulliad Cenedlaethol.

Mewn dadl yn San Steffan yn ymwneud â chynnwys Papur Gwyrdd y llywodraeth yn ymwneud â'r newidiadau arfaethedig, dywedodd y cyn Ysgrifenydd Gwladol Paul Murphy fod Carwyn Jones wedi cael sicrwydd ddwywaith gan David Cameron, na fyddai'r llywodraeth yn newid y ffiniau onibai fod y Cynulliad Cenedlaethol yn cydsynio.

Ond mewn ymateb i haeriad Mr Murphy, mynnodd Is Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones nad oedd Mr Cameron yn cofio gwneud addewid o'r math.

Yn wahanol i'r hyn mae Carwyn Jones yn ddweud, medd David Jones, cred David Cameron yw iddo addo y byddai Carwyn Jones yn cael llais yn y broses ond nad mater i'r Cynulliad Cenedlaethol yn unig yw mater o'r fath.

'Smonach'

"Smonach go iawn" oedd ymateb Paul Murphy, tra bod Alun Michael o'r farn fod anghydweld o'r fath yn tanseilio'r ymddiriedaeth rhwng llywodraeth Y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Mr Murphy: "Mae hwn yn bwnc niweidiol, oedd wedi agor gagendor difrifol rhwng y llywodraethau", meddai.

Cafodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Cymru, ei chyhuddo o ymdrin â phwnc cyfansoddiadol sensitif mewn modd "di-glem a thrahaus".

Ffynhonnell y llun, PA

Disgrifiad o'r llun, Gillan: '... yn gobeithio cyhoeddi canlyniad yr ymgynghori yn ddiweddarach yn y flwyddyn'

Doedd hi ddim yn bresennol yn y ddadl gan ei bod wedi mynychu cyfarfod o'r Cabinet ddydd Mawrth.

Ar hyn o bryd mae ffiniau etholaethau'r Cynulliad yn union fel etholaethau San Steffan.

Ond ym mis Ionawr cyhoeddodd y Comisiwn Ffiniau gynigion pellgyrhaeddol i leihau nifer seddau Aelodau Seneddol Cymru o 40 i 30.

Oherwydd hynny, dywed y Ceidwadwyr Cymreig ei bod yn "rhesymol" i gynnal ymgynghoriad ar drefniadau etholaethol y Cynulliad hefyd.