Maes awyr: Canolfan ranbarthol?

Ffynhonnell y llun, Â鶹ԼÅÄ news grab

Disgrifiad o'r llun, Mae'r Prif Weinidog, Carwyn Jones, am weld perchnogion Maes Awyr Caerdydd yn buddsoddi i'r dyfodol

Mae arbenigwr ar y diwydiant awyrennau yn dweud y gallai Maes Awyr Caerdydd gael rôl bwysig fel canolfan rhanbarthol er mwyn ysgafnhau'r pwysau ar faes awyr Heathrow.

Daw sylwadau Laurie Price wrth i Faes Awyr Birmingham annog llywodraeth y DU i ddatblygu meysydd awyr rhanbarthol.

Bydd gweinidogion San Steffan yn cyflwyno'u syniadau fel rhan o broses ymgynghori dros yr haf.

Dywed Maes Awyr Caerdydd eu bod yn ceisio adeiladu ar eu llwyddiant wrth ddenu tri chwmni awyrennau newydd dros y flwyddyn ddiwethaf.

Y tri yw :-

  • Helvetic - yn hedfan i Zurich;
  • Vueling - yn hedfan i Barcelona, Alicante a Palma (Majorca);
  • Cosmos - yn hedfa i Orlando (Florida).

Dywedodd Mr Price, sy'n ymgynghorydd i'r diwydiant: "Mae gan Gaerdydd rôl bwysig i chwarae yng Nghymru.

"Roedd gan y maes awyr rwydwaith dda o wasanaethau yn y gorffennol. Yn amlwg mae'n gweithio'n galed i ail-adeiladu hynny."

Teithiau byr

Gwnaeth ei sylwadau wrth i adroddiad gan brif weithredwr Maes Awyr Birmingham, Paul Kehoe, ddweud bod awyrennau llai sy'n medru hedfan yn bellach yn golygu nad oes rhaid i deithwyr fynd drwy ganolfannau mawr fel Heathrow mor aml.

Mae perchnogion Heathrow, BAA, wrthi'n lansio ymgyrch newydd i gael caniatâd i adeiladu trydedd llain lanio i'r maes awyr.

Ychwanegodd Mr Price: "Gall Caerdydd chwarae rôl bwysig wrth wasanaethu'r farchnad ranbarthol, yn enwedig teithiau byr i Ewrop."

Yn flaenorol mae'r Prif Weinidog, Carwyn Jones, wedi galw ar berchnogion Maes Awyr Caerdydd i fuddsoddi yn nyfodol y safle, neu ei werthu.

Ym mis Mai, dywedodd Mr Jones ei fod wedi cynnal trafodaethau gyda darpar brynwyr oedd â diddordeb mewn partneriaeth breifat a chyhoeddus, gyda Llywodraeth Cymru yn cymryd siâr.

Dywedodd perchnogion Sbaenaidd Maes Awyr Caerdydd nad oedd ganddynt gynlluniau i'w werthu, ond eu bod yn agored i gynigion.