Â鶹ԼÅÄ

Tri arglwydd: 'Angen mwy o ACau'

  • Cyhoeddwyd
San SteffanFfynhonnell y llun, Â鶹ԼÅÄ news grab
Disgrifiad o’r llun,

Mae tri aelod o Gymru'n cytuno bod rhaid cael mwy o ACau

Mae tri aelod o Gymru yn NhÅ·'r Arglwyddi wedi dweud y dylid cael mwy o Aelodau Cynulliad ym Mae Caerdydd.

Mewn cyfweliad gyda Â鶹ԼÅÄ Cymru dywedodd y tri bod angen mwy o ACau er mwyn i'r Cynulliad wneud ei waith yn iawn.

Y tri yw'r Arglwydd Touhig o'r Blaid Lafur, y Farwnes Randerson o'r Democratiaid Rhyddfrydol a'r Arglwydd Wigley o Blaid Cymru.

Dywedodd yr Arglwydd Touhig: "... mae gen i bryderon am gael mwy o wleidyddion etholedig.

'Craffu'

"Ond rwy'n credu y bydd problem - wrth i'r Cynulliad gael mwy o bwerau gyda'r angen felly am fwy o weinidogion, cadeiryddion pwyllgorau ac ati, yna pwy fydd ar ôl i wneud y gwaith craffu?

"Does dim diwylliant o graffu yn y Cynulliad fel sydd yma yn San Steffan."

Ychwanegodd y byddai angen mwy o ACau er mwyn i hynny ddigwydd.

Dywedodd yr Arglwydd Wigley: "Mae hyn yn anochel os ydym am gael craffu cywir.

'Niferoedd'

"Os ydym am gael corff deddfwriaethol effeithiol, yna mae'n rhaid cael y niferoedd i wneud y gwaith.

"Yr hyn yr hoffwn ei weld yw bod yr adnoddau fydd yn cael eu harbed os byddwn yn cwtogi'r nifer o Aelodau Seneddol yn cael eu rhoi i'r Cynulliad."

Dywedodd y Farwnes Randerson: "Mae'n bwysig i ni barhau i drafod y mater.

"Os bydd diwygio TÅ·'r Arglwyddi yn digwydd fe fydd 400 yn lle 900 o arglwyddi sy'n golygu llai o bobl o Gymru sy'n eiriol ar ran Cymru yn San Steffan.

"Cyfunwch hynny gyda chwtogi'r nifer o Aelodau Seneddol ac, yn sicr, fe fydd effaith ar fuddiannau Cymru."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r Â鶹ԼÅÄ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol