Siacedi achub newydd i wirfoddolwyr badau achub Cymru

Ffynhonnell y llun, Other

Disgrifiad o'r llun, Mae gan yr RNLI siacedi achub newydd

Mae siaced achub newydd yn cael eu dosbarthu i wirfoddolwyr badau achub ledled Cymru.

Dywed yr RNLI fod apêl arbennig wedi llwyddo i godi £185,000 i dalu am y siacedi ar gyfer criwiau 31 o orsafoedd achub yng Nghymru.

Mae yna ddau fath o siaced achub newydd a gafodd eu cynllunio yn dilyn treialon gyda chriwiau Caergybi a Chricieth y llynedd.

Cafodd y siacedi cyntaf eu dosbarthu i wirfoddolwyr yn Noc Y Barri.

Eisoes mae criwiau yn y Mwmblws, Tyddewi, Abermaw, Porthdinllaen, Moelfre, Cei Newydd a'r Rhyl wedi derbyn y wisg newydd.

Bydd gorsafoedd Dinbych y Pysgod ac Abergwaun yn derbyn eu siacedi yr wythnos hon, a gweddill y gorsafoedd erbyn diwedd y mis.

Moderneiddio

Cafodd y siacedi cyntaf eu cyflwyno yn 1854 ar ôl i arolygwr gyda'r RNLI, Capten Ward, ddyfeisio siaced wedi ei gwneud o gorc.

Dywedodd llefarydd ar ran yr elusen eu bod yn ceisio moderneiddio a gwella'r siaced achub yn gyson.

Yn ôl y llefarydd mae'r siaced ddiweddara yn ei gwneud yn haws i aelodau'r criw symud, ac mae pocedi arbennig yn caniatáu iddynt gario nwyddau meddygol.

Dywedodd Peter Davies o fad achub Abermaw fod y siacedi newydd yn fwy cyfforddus ac yn haws i'w gwisgo.

"Bydd y siacedi hyn yn gwneud gwaith ein gwirfoddolwyr yn haws," meddai.

"Rydym yn ffodus fod yr RNLI yn rhoi gymaint o sylw i ddiogelwch y gwirfoddolwyr a'u bod yn rhoi gymaint o bwyslais ar wella offer achub."