Offer arbenigol wedi eu dwyn o swyddfa Cwmni Da

Mae Heddlu'r Gogledd yn ymchwilio ar ôl i offer arbenigol gwerth degau o filoedd o bunnau gael ei ddwyn o swyddfa cwmni teledu o Wynedd.

Fe dorrodd y lladron i mewn i adeilad Cwmni Da yn Y Felinheli nos Sadwrn.

Yn ôl perchennog y cwmni dydyn nhw ddim wedi colli unrhyw waith creadigol gwreiddiol.

Fe fyddan nhw nawr yn gorfod llogi offer tebyg er mwyn parhau a'u gwaith.

Yn ôl Dylan Huws, dim ond i'r rhai sy'n gweithio yn y diwydiant teledu y mae'r offer yn ddefnyddiol.

"Mae'r mater nawr yn nwylo'r heddlu," meddai.

"Roedd offer trydanol eraill, fel cluniadyron wedi eu gadael yn y swyddfa.

"Mae'r peiriannau o ansawdd uchel iawn ac yn werth swm sylweddol iawn."

Ychwanegodd na fydd 'na oedi gyda chyflawni unrhyw waith ar gyfer dyddiadau penodol o ganlyniad i'r lladrad.