Cyplau hoyw: Ficer yn ymddiswyddo

Disgrifiad o'r llun, Mae Mr Morton wedi bod yn ficer am 33 mlynedd

Mae ficer yn Sir Fynwy sy'n dweud y byddai wedi bod yn barod i gynnal seremonïau ar gyfer cyplau hoyw, wedi ymddiswyddo.

Ficer Llangybi, y Parchedig Andrew Morton, ydi'r cyntaf yng Nghymru i ymddiswyddo fel rhan o ffrae am gynlluniau i ganiatáu i gyplau hoyw briodi.

Yn ôl yr Eglwys yng Nghymru, maen nhw'n cadw at y safbwynt y dylai priodas fod rhwng dyn a menyw ond maen nhw'n barod i wrando ar safbwyntiau eraill.

Yn ôl y Parchedig Morton, mae rhai aelodau o'r cymundeb Anglicanaidd, gan gynnwys elfennau o'r Eglwys yng Nghymru, yn fwyfwy homoffobig.

'Edifarhau'

Dywedodd yr Eglwys yng Nghymru: "Rydym yn edifarhau ymddiswyddiad unrhyw un o'n clerigwyr dros bwnc nad oes penderfyniadau terfynol wedi eu gwneud yn ei gylch.

"Rydym yn ceisio symud ymlaen yn dawel mewn ffordd sy'n apelio at bawb, ac mae hynny'n gofyn am amser ac amynedd."

Daw hyn yn dilyn ymgynghoriad gan Lywodraeth San Steffan ynghylch a ddylid caniatáu i gyplau hoyw i briodi.

Mae partneriaethau sifil, a gyflwynwyd yn 2005, eisoes yn rhoi hawliau cyfreithiol tebyg i gyplau sydd wedi priodi.

Ond mae'r llywodraeth eisiau caniatáu i gyplau hoyw briodi cyn yr etholiad cyffredinol nesaf yn 2015.

'Homoffobia'

Dywedodd Mr Morton, sydd wedi bod yn ficer am 33 mlynedd: "Roeddwn i'n teimlo bod safbwynt yr eglwys ar berthnasau hoyw, heb sôn am briodasau hoyw, yn gynyddol feirniadol a ddim yn gynhwysol fel y dylai fod yn fy marn i" meddai wrth Â鶹ԼÅÄ Cymru.

"Dwi'n synhwyro fwy o homoffobia yn yr eglwys nag sydd wedi bod ers amser hir.

"Efallai taw fy nghanfyddiad personol i yw hynny".

Ychwanegodd bod mwyafrif yr eglwys yn "hynod faddeuol a chariadus iawn"

Yn ôl y Canon Andrew Knight, ficer Sgeti yn Abertawe, sy'n gwrthwynebu priodasau hoyw, ni all y gymuned Gristnogol "ddathlu rhywbeth sydd ddim yn cael ei weld fel rhywbeth da.

"Dyw'r ysgrythur ddim yn cefnogi priodasau hoyw".