Â鶹ԼÅÄ

Cyflog rhanbarthol: 'Angen undod'

  • Cyhoeddwyd
Leanne WoodFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Cyfeiriodd Leanne Wood at ystadegau'r Undeb Ewropeaidd

Mae arweinydd newydd Plaid Cymru wedi dweud y dylai arweinwyr gwleidyddol yng Nghymru uno er mwyn gwrthwynebu cyflog rhanbarthol yn y sector cyhoeddus.

Yn y Senedd ym Mae Caerdydd gofynnodd Leanne Wood i'r Prif Weinidog, Carwyn Jones, ac arweinwyr y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol wrthwynebu'r cynnig.

Hwn oedd y tro cynta i arweinydd newydd Plaid Cymru wneud sylwadau yn ystod Sesiwn Gwestiynau'r Prif Weinidog.

Cyfeiriodd hi at ystadegau'r Undeb Ewropeaidd oedd yn awgrymu bod perfformiad yr economi'n waeth yn rhannau tlota Cymru na'r cyfartaledd Ewropeaidd.

Pe bai'r Canghellor, George Osborne, yn cyflwyno cyflog rhanbarthol yn y sector cyhoeddus, meddai, "fe fyddai'r sefyllfa'n gwaethygu," meddai.

"O bryd i'w gilydd pan mae angen hyn mae pleidiau'r Cynulliad yn cydweithredu oherwydd amcan cyffredin," meddai Ms Wood.

'Atal'

"Dylai arweinwyr pob plaid sefyll gyda'i gilydd er mwyn atal Llywodraeth San Steffan rhag rhoi mwy o bwysau ar incwm teuluoedd yng Nghymru."

Yn yr hydref gofynnodd Mr Osborne i gyrff adolygu cyflogau adrodd yn ôl am sicrhau bod y sector cyhoeddus "yn ymateb yn well i farchnadoedd llafur lleol".

Dywedodd Mr Jones y byddai effaith cyflog rhanbarthol yn "andwyol".

"Mae'n fesur hurt, yn annoeth, yn nodweddiadol o'r llywodraeth glymblaid."

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams, ei bod hi'n erbyn cyflogau rhanbarthol ac y byddai'n gwrthwynebu'r cynnig.

"Mae'n drueni na wnaeth Prif Weinidog Cymru ychydig yn fwy pan oedd Llafur wrth y llyw am 13 o flynyddoedd," meddai.