Carwyn: 'Angen rhedeg maes awyr yn iawn'

Ffynhonnell y llun, Â鶹ԼÅÄ news grab

Disgrifiad o'r llun, Teithiodd 13% yn llai o bobl o Faes Awyr Caerdydd y llynedd

Mae'r Prif Weinidog, Carwyn Jones, wedi dweud bod angen rhedeg Maes Awyr Caerdydd yn iawn neu ei werthu.

Dywedodd na fyddai am groesawu ymwelwyr i Gymru drwy'r maes awyr oherwydd yr argraff yr y safle'n ei chreu.

Roedd ei sylwadau wedi iddi ddod i'r amlwg bod nifer y rhai sy'n defnyddio'r maes awyr yn llai eto'r llynedd.

Dywedodd perchnogion y maes awyr - cwmni Abertis o Sbaen - eu bod am gydweithio gyda Llywodraeth Cymru.

Disgynnodd nifer y teithwyr ddefnyddiodd y maes awyr y llynedd o 13% i ychydig dros 1.2 miliwn.

Dros yr un cyfnod roedd cynnydd o 1% yn nifer y teithwyr aeth drwy Faes Awyr Bryste - i fyny i fwy na 5.7 miliwn.

Strategaeth

Gofynnwyd i'r Prif Weinidog a fyddai Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi strategaeth diwydiant awyrennau yn ystod sesiwn holi Aelodau Cynulliad ddydd Mawrth.

Ei ateb oedd: "Rhaid i mi ddweud o ystyried cyflwr y maes awyr ar hyn o bryd, fyddwn i ddim am ddod â phobl drwy Faes Awyr Caerdydd oherwydd yr argraff y mae'n ei rhoi o Gymru.

"Mae'n rhywbeth sydd wedi cael ei ddweud wrthyf dro ar ôl tro gan deithwyr sydd wedi defnyddio'r lle.

"Rhaid dweud hefyd ei bod yn bryd i'r perchnogion redeg y maes awyr yn iawn neu ei werthu."

'Yn weithgar'

Wrth roi tystiolaeth i Aelodau Cynulliad yr wythnos ddiwethaf, dywedodd y perchnogion eu bod yn "weithgar iawn" wrth farchnata i gwmnïau awyrennau yn y DU, Ewrop, yr Unol Daleithiau a gweddill y byd.

Mae'r maes awyr yn ateb tua 45% o'r galw am deithiau awyr o dde Cymru, gyda'r gweddill yn defnyddio meysydd awyr Bryste a Heathrow yn bennaf.

Ychwanegodd Abertis fod Bryste yn gwasanaethu "ardal fwy a mwy llewyrchus".

Dywedodd y cwmni hefyd y gallai trosglwyddo rheoli'r doll teithiau awyr i Lywodraeth Cymru leihau costau hedfan.

Ychwanegodd llefarydd ar ran y cwmni na fyddai gwell mynediad i'r maes awyr yn ddigon ynddo'i hun i helpu'r maes awyr i ddatblygu.

"Yn y pen draw," meddai, "rhwydwaith o deithiau a phrisiau cystadleuol sy'n caniatáu i faes awyr ddatblygu a thyfu, gyda'r holl fuddion ddaw o hynny."

Galwodd hefyd am "gefnogaeth bendant sy'n gysylltiedig â pholisïau economaidd a blaenoriaethau" er mwyn lleihau'r risg i gwmnïau sy'n ystyried trefnu teithiau o Gaerdydd.

'Trist iawn'

Yn y cyfamser, dywedodd Peter Phillips, Cadeirydd Rhwydwaith Awyr Cymru a chyn bennaeth marchnata a chyfathrebu ym Maes Awyr Caerdydd, bod nifer y teithwyr yno wedi disgyn o bron 50% dros bedair blynedd.

Dywedodd: "Y dyddiau hyn allwch chi gymharu'r maes awyr nid â rhai dinesig fel Caeredin neu Belffast ond â maes awyr rhanbarthol fel Newquay neu Bournemouth. Mae hynny'n drist iawn."

Cytunodd gyda'r Prif Weinidog y dylai'r perchnogion werthu'r maes awyr os nad oedden nhw'n gallu buddsoddi yno.

"Mae Caerdydd ei hun yn un o'r lleoedd mwyaf cyffrous yn Ewrop gyda phroffil anferth.

"Dydw i ddim yn gweld Maes Awyr Caerdydd yn yr un gynghrair â'r ddinas y mae'n gwasanaethu. Mae'r un sydd yn yr un gynghrair dros y bont ym Mryste."