Adroddiad yn galw am wella'r gwasanaeth post

Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation

Disgrifiad o'r llun, Mae cwsmeriaid yn poeni nad yw staff yn gallu delio â phostio parseli trymion

Mae angen i swyddfeydd post lleol wella er mwyn i ddefnyddwyr gael y budd mwyaf.

Dyna gasgliad adroddiad Llais Defnyddwyr Cymru, 'Aros yn Lleol: Dyfodol Rhwydwaith Swyddfa'r Post'.

Mae'r cwsmeriaid yn croesawu'r oriau hwy, y cyfleustra a'r gwasanaeth cyfeillgar ond mae'r adroddiad yn nodi bod pobl yn poeni am breifatrwydd, yr amrywiaeth o wasanaethau a chynhyrchion, ac ymwybyddiaeth o'r hyn y mae'r gwasanaeth lleol yn ei gynnig.

Ac mae rhai o'r cwsmeriaid yn codi pryderon am allu rhai aelodau staff i ddelio â gwasanaethau fel postio parseli trwm a delio â thaliadau pensiwn.

Mae'r Swyddfa'r Post wedi croesawu'r adroddiad.

Dywed yr adroddiad fod hyn yn amlygu'r ffaith bod angen gwell hyfforddiant a chymorth ar staff.

Oedrannus

Mae hefyd yn nodi bod cyfleustra'n bwysig i'r cwsmeriaid sy'n byw mewn ardaloedd anghysbell lle mae ychydig o wasanaethau eraill a bod cwsmeriaid oedrannus yn cyfeirio at broblemau symudedd a diffyg cludiant.

Yn ôl yr adroddiad, mae galw am fwy o wasanaethau mewn swyddfeydd post lleol fydd yn helpu pobl sy'n sâl neu'n fregus.

"Mae swyddfeydd post yn wasanaeth hanfodol i gymunedau lleol yng Nghymru," meddai Rebecca Thomas, arbenigwraig gwasanaethau post gyda Llais Defnyddwyr Cymru.

"Cyn i swyddfeydd post lleol gael eu cyflwyno ledled Cymru, mae'n hanfodol bod Swyddfa'r Post yn creu model sy'n diwallu anghenion eu cwsmeriaid.

"Mae ein hymchwil yn tynnu sylw at faterion pwysig ond mae hefyd yn nodi llawer o bryderon y mae angen mynd i'r afael â nhw.

"Mae gan swyddfeydd post lleol y gallu i gynnig y gwasanaeth cyson a dibynadwy y mae defnyddwyr yn dibynnu arno - ond mae angen gwelliannau mewn llawer o ardaloedd."

Eglurodd bod y swyddfa bost yn "wasanaeth cymunedol" a bod gan y cwsmer ddisgwyliadau.

'Canolbwynt'

"Mewn ardaloedd gwledig, anghysbell, mae'n parhau i fod yn ganolbwynt cymdeithasol i lawer.

"Er mwyn sicrhau bod y rhwydwaith yn gynaliadwy rhaid manteisio ar ffrydiau refeniw, gan gynnwys trafodion banc a marchnad gollwng a chodi parseli sy'n cael ei hybu gan siopa ar-lein."

Dywedodd Victoria Lloyd, Cyfarwyddwr Dylanwadu a Datblygu Rhaglenni Age Cymru, fod y swyddfeydd post yn hollbwysig i bobl hÅ·n.

"Roedd ymchwil yn 2007 yn nodi bod 76% o bobl 65 oed a hÅ·n yng Nghymru yn defnyddio eu swyddfa bost leol o leiaf unwaith yr wythnos.

"Mae'r ffaith fod swyddfeydd post - canolbwynt traddodiadol ein cymunedau - wedi bod yn diflannu yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi cyfrannu at fwy o ynysu cymdeithasol ac unigrwydd.

"Ac mae colli swyddfeydd post - a'r canghennau banc sydd hefyd wedi bod yn cau - wedi ei gwneud yn anos cael gafael ar arian yn gyflym mewn rhannau o Gymru."

Mewn ymateb dywedodd Mike Norman, ar ran Swyddfa'r Post, bod yr adroddiad diweddaraf yn cydnabod bod cwsmeriaid yn croesawu'r math newydd o ganghennau.

"Rydym ar hyn o bryd yn cynnal peilot o'r canghennau lleol newydd a'r prif ganghennau ar draws y DU ac yn croesawu unrhyw ymateb er mwyn i ni ddatblygu'r gwasanaeth ar draws y wlad yn ystod haf 2012.

"Fe fyddwn yn astudio'r adroddiad a'r argymhellion ac yn croesawu'r cyfle i gyd-weithio gyda Llais Defnyddwyr Cymru wrth i ni ddatblygu'r cynlluniau."