Blwyddyn brysur i'r RNLI ym Miwmares

Mae ffigurau diweddaraf elusen yr RNLI yn dangos mai Biwmares oedd yr orsaf brysuraf yng Nghymru'r llynedd.

Cafodd bad achub yr orsaf ei lansio 77 o weithiau, gan gludo 72 o bobl yn ddiogel i'r lan.

Mae yna 31 o orsafoedd yr RNLI yng Nghymru a'r llynedd cafodd y badau eu galw allan 1,102 o weithiau, gan achub 1,017 i bobl.

Yr orsaf achubodd y nifer fwyaf o bobl oedd Y Mwmbwls, gydag 89 yn cael eu cludo i'r lan.

Mae yna 600 o wirfoddolwyr yn cynnal y badau achub ar draws Cymru.

Dywed yr elusen eu bod hefyd yn darparu swyddogion diogelwch i oruchwylio 28 o draethau.

Galwadau brys

Yn ôl y ffigurau fe wnaeth y swyddogion yma gynorthwyo 1,503 o bobl, gan achub bywydau chwech o bobl.

Dywedodd Colin Williams, Arolygwr gyda'r RNLI yng Nghymru:

"Yn 2011 fe wnaeth gwirfoddolwyr mewn 31 o orsafoedd yng Nghymru dreulio 6,877 o oriau wrth ymateb i alwadau brys.

Fe welodd bron i 50% o'r gorsafoedd gynnydd yn nifer y galwadau o'i gymharu â 2010, wrth i fwy o bobl hamddena yn y môr ac ar draethau.