Ailgodi hen ddadl?

Ffynhonnell y llun, Other

Disgrifiad o'r llun, Mae Huw Lewis yn ddarlithydd yn adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth

Fydd dim angen ailgodi dadl creu'r Fro Gymraeg os bydd llai o gymunedau â mwy na 70% yn siarad yr iaith, yn ôl darlithydd.

Dywedodd Huw Lewis, o Brifysgol Aberystwyth a chyn-Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith, ei bod yn bosib y bydd ystadegau Cyfrifiad 2011 yn dangos llai o gymunedau Cymraeg.

Dadl Mr Lewis, o'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, yw bod diffiniad "cymuned" a'r modd y mae unigolion yn ymwneud â'i gilydd wedi newid yn fawr ers 20 mlynedd.

"Erbyn heddiw mae pobl yn llawer mwy symudol, ac o ganlyniad nid yw eu patrymau defnydd iaith yn cael eu diffinio i'r fath raddau gan leoliad daearyddol, boed hwnnw'n wledig neu'n drefol," meddai.

"Er enghraifft, mae'n bosib bod person yn byw mewn pentref yng nghefn gwlad Ceredigion ond mai ychydig o ddylanwad sydd gan y lleoliad ar ei batrymau defnydd iaith.

Iaith fyw

"Mae'n bosib ei fod yn gweithio yn Aberaeron, yn siopa yn Aberystwyth ac yn mynd i Gaerdydd neu Abertawe yn gyson ar gyfer adloniant."

Felly, meddai, mae angen ystyried y tueddiadau'n ofalus wrth benderfynu polisïau sy'n mynd i sicrhau bod y Gymraeg yn iaith fyw.

Mae'n bosib, meddai, y bydd canlyniadau'r Cyfrifiad yn dangos cynnydd pellach yn nifer y rhai sy'n siarad Gymraeg.

"Ond yr un pryd, mae'n debygol y bydd y Cyfrifiad yn dangos dirywiad pellach yn y nifer y cymunedau Cymraeg," meddai.

"Byddai hyn yn destun siom."

'Bro Gymraeg'

Dywedodd fod y mudiad iaith wedi dadlau bod cynnal cymunedau Cymraeg, lle mae dros 70% o'r trigolion yn siarad Cymraeg, yn allweddol i ffyniant yr iaith.

A'r rheswm am hyn oedd bod digon o siaradwyr yn sicrhau bod yr iaith yn cael ei defnyddio'n ddyddiol fel iaith naturiol.

"Dros y blynyddoedd mae amryw wedi ymateb i'r dirywiad cyson yn y nifer y cymunedau Cymraeg, gan fynnu y dylid sefydlu bro Gymraeg swyddogol," meddai.

"Mae'n bosib y bydd rhai'n dewis dehongli canlyniadau'r Cyfrifiad fel rheswm am ail-godi dadleuon o'r fath ond, yn bersonol, ni fyddwn yn cefnogi hynny."

"Hyd y gwelaf i, o ystyried y dosbarthiad presennol o siaradwyr Cymraeg, mae'n anochel y byddai unrhyw ymdrech i ddiffinio bro Gymraeg ystyrlon yn ein gadael ag ardal sy'n wledig iawn o ran ei natur.

"Mae'n debyg mai Caernarfon fyddai'r unig dref sy'n agos at gyrraedd y trothwy.

"Mae'n annhebygol y byddai ardal wledig o'r fath yn cynnig sail gadarn i broses o adfer ieithyddol.

"Nid wyf yn awgrymu am eiliad fod rhywbeth o'i le ar fywyd gwledig.

Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation

Disgrifiad o'r llun, Arweiniodd darlith Saunders Lewis at sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

"Ond mae angen deall bod y broses o drefoli yn rhan annatod o fywyd modern ac mae angen cadw hynny mewn cof wrth drafod dyfodol y Gymraeg."

Wrth drafod strategaethau hybu'r iaith, dywedodd nad oedd dewis syml rhwng deddfwriaeth a dulliau hyrwyddo.

'Gorsymleiddio'

"Mae'r duedd i fframio'r drafodaeth mewn termau o'r fath yn gorsymleiddio pethau," meddai.

"Mae gan ddeddfwriaeth a dulliau hyrwyddo ddau gyfraniad pwysig i'w wneud - ond cyfraniadau gwahanol."

"Yn fy marn i, prif gyfraniad deddfwriaeth yw sicrhau cyfiawnder i'r sawl sy'n siarad Cymraeg ac yn dymuno byw eu bywydau trwy gyfrwng yr iaith, hynny yw sicrhau bod modd iddyn nhw ddefnyddio'r iaith wrth gyflawni tasgau bywyd allweddol, er enghraifft wrth dderbyn gofal iechyd neu wrth ymwneud â'r llysoedd.

"Fodd bynnag, dymuniad Llywodraeth Cymru yw nid yn unig sicrhau bod y sawl sydd eisoes am ddefnyddio'r Gymraeg yn medru gwneud hynny ond annog pobl eraill i wneud hefyd, a hynny mewn peuoedd swyddogol ac anffurfiol.

"Dyna pam fod angen cryn dipyn o waith hyrwyddo ochr yn ochr â deddfwriaeth."

Dywedodd fod yr iaith mewn sefyllfa gadarnach nag yr oedd hi 50 mlynedd yn ôl, adeg y ddarlith radio enwog.

Ond fe fyddai canlyniadau Cyfrifiad 2011 yn codi cwestiynau am dynged yr iaith dros y 50 mlynedd nesaf.