Lansio llinell gymorth trais rhywiol a chamdriniaeth yn y cartref

Ffynhonnell y llun, bbc

Disgrifiad o'r llun, Cafodd llinell gymorth debyg ei sefydlu yn 2004

Bydd Llinell Gymorth Camdriniaeth yn y Cartref a Thrais Rhywiol Cymru Gyfan yn darparu gwasanaeth 24 awr yn ddwyieithog i gynnig cymorth a chanllaw i bobl sydd â phrofiad o gam-drin neu drais o'r fath.

Fe fydd hefyd yn cynnig cyfarwyddyd i bobl sydd angen cefnogaeth frys neu gyngor ar wybodaeth am eu hawliau.

Bu llinell gymorth debyg mewn bodolaeth ers 2004 ac wedi delio gyda mwy na 215,000 o alwadau ers hynny, gan gynnwys 33,000 yn 2010-11.

Ond fe fydd y llinell newydd yn cael ei ymestyn i ddelio gydag achosion o drais rhyw, gan gynnig gwasanaeth gwell ac estynedig i fenywod, dynion a phlant.

Caiff y llinell gymorth newydd ei lansio gan y Gweinidog Llywodraeth Leol Carl Sargeant yn Y Senedd ddydd Iau.

Amhrisiadwy

Dywedodd Paula Hardy, Prif Weithredwr Cymorth i Ferched Cymru a fydd yn gyfrifol am y llinell gymorth ar ei newydd-wedd, bod y llinell gymorth wedi bod yn wasanaeth "amhrisiadwy i'r rhai sy'n dioddef cam-drin yn y cartref".

"Fodd bynnag, fe gafodd ei gydnabod ers tro fod angen gwneud mwy i'r rhai sy'n profi trais rhyw, gyda'r un lefel o wybodaeth a chyngor ar gael iddyn nhw.

"Mae ehangu'r llinell gymorth yn gam gwych tuag at gyflawni hyn."

Dywedodd Carl Sargeant, bod taclo cam-drin yn y cartref a thrais rhyw yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.

"Dyna pam y gwnaethon ni hysbysebu tender i ddarparu Llinell Gymorth Camdriniaeth yn y Cartref a Thrais Rhywiol Cymru Gyfan.

"Cafodd y tender ei ennill gan Cymorth i Ferched Cymru am dair blynedd o Ebrill 1, 2011 ar gost o £455,000 y flwyddyn.

"Er ei bod hi'n realiti trist fod cam-drin yn y cartref yn effeithio ar bobl o bob math, does dim rhaid i ddioddefwyr ddioddef mewn distawrwydd.

"Bydd y llinell gymorth yn cynnig gwybodaeth a chefnogaeth o'r radd flaenaf yn rhad ac am ddim.

"Mae gan bawb yr hawl i fyw heb ofn."

Rhif Llinell Gymorth Camdriniaeth yn y Cartref a Thrais Rhywiol Cymru Gyfan yw 0808 80 10 800.