Ffermydd gwynt: Poeni am dagfeydd

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae 'na bryderon y bydd rhaid i'r canolbarth wynebu mwy na'i siâr o ddatblygiadau
  • Awdur, Gan Iolo ap Dafydd
  • Swydd, Gohebydd Amgylchedd Â鶹ԼÅÄ Cymru

Mae pryderon am dagfeydd traffig ym Mhowys yn sgil datblygiadau ffermydd gwynt yn cael eu trafod yn Y Drenewydd.

Y disgwyl yw i hyd at 40 o fusnesau fynychu'r cyfarfod am eu bod yn poeni am effaith adeiladu hyd at 15 fferm wynt yn y canolbarth.

Dywed datblygwyr ynni gwynt y bydd y cynnydd mewn nifer y lorïau a llwythi mawr yn fyrhoedlog oherwydd mai dim ond yn ystod y cyfnod adeiladu fydd hyn yn digwydd.

Ond mae Trevor Wheatley o'r cwmni cynnyrch meddygol, CellPath, yn ofni y gall amhariadau o'r fath effeithio ar eu trosglwyddiadau.

Mae'r cwmni o'r Drenewydd yn allforio tua chwarter o'u cynnyrch.

Llai o lygredd

"Rydyn ni'n allforio ein nwyddau i nifer o ysbytai ac os na fydd yr ysbytai hyn yn derbyn ein cyflenwadau gallai hyn fod yn ddifrifol, yn enwedig pe bai 'na effaith ar draffig," meddai Mr Wheatley.

"Maen nhw'n dibynnu arnom am y cyflenwadau arbenigol hyn ac rydyn ni'n cyflenwi'r rhan fwyaf o ysbytai yn y Deyrnas Unedig."

Mae'r cynlluniau arfaethedig i adeiladu mwy o ffermydd gwynt yn rhan o gynlluniau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gynhyrchu mwy o drydan o ffynonellau sy'n creu llai o lygredd a lleihau'r defnydd o lo, olew a nwy.

Dywedodd Llywelyn Rhys o'r gymdeithas masnachu ynni adnewyddadwy, RenewableUK Cymru, y byddai unrhyw amhariad yn fyrhoedlog, gan ychwanegu y byddai cyfleoedd i fusnesau lleol.

"Rwy'n meddwl bod hyn yn gyfle gwych i fusnesau lleol a mentrwyr lleol i feddwl yn galed am sut y gallan nhw wasanaethu datblygiadau ffermydd gwynt yn eu hardaloedd nhw," meddai.

"Bydd adeiladu ffermydd gwynt newydd, yn amlwg, yn golygu y bydd swyddi adeiladu yn cael eu creu, ond bydd y ffermydd gwynt angen cyflenwad cyson o ddefnyddiau a bydd angen cynnal a chadw'r fferm wynt cyn gynted ag y bydd yn weithredol."

Pryder cynyddol

Y rheswm y tu cefn i'r cyfarfod nos Fercher yw'r pryder cynyddol ymysg rhai pobl y bydd rhaid i rannau o'r canolbarth, yn enwedig Sir Drefaldwyn, oddef mwy na'i siâr o ddatblygiadau ffermydd gwynt.

Pe bai'r 15 fferm wynt yn cael eu cymeradwyo gan Gyngor Powys a Llywodraeth Cymru - a'r cynlluniau mawr o fwy na 50 megawat gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig - bydd cannoedd o dyrbinau newydd yn ymuno â'r rheiny sydd eisoes wedi eu gosod ar fynyddoedd canolbarth Cymru.

Pe bai rhai, neu'r holl ffermydd gwynt hyn yn cael eu codi, byddai'r Grid Cenedlaethol yn cael eu gorfodi'n gyfreithiol i ehangu'r isadeiledd trydanol i alluogi'r pŵer a gynhyrchir gan y tyrbinau i gael ei gludo i'r lleoliadau lle mae mwyaf ei angen - sef Lloegr.

Mae'r grid yn bwriadu codi hyd at 120 o beilonau 50 metr o uchder i gario gwifrau trydan 400,000 folt o Gymru i gyffiniau'r Amwythig yn Lloegr.

Yn ôl y grid, byddai angen lleoli is-orsaf ar safle 20 erw naill ai ger Aber-miwl, Y Drenewydd, neu yn ardal fwy gwledig Cefn Coch ger Llanfair Caereinion.

Rhwystredigaeth

Mae TAN8 (Nodyn Cyngor Technegol) yn bolisi Llywodraeth Cymru ers 2005, fel cyfarwyddyd ar ffermydd gwynt hyd at 50 megawat.

Fel rhan o TAN8 mae saith maes o ganolbarth a de Cymru wedi'u clustnodi fel safleoedd posibl ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy.

Yn ôl ymgyrchwyr sy'n gwrthwynebu cynlluniau'r Grid Cenedlaethol, y polisi hwn sy'n gyfrifol am y rhwystredigaeth sy'n cael ei lleisio ynghylch materion traffig a'r effaith ar y dirwedd yn y canolbarth, yn ogystal â'r cynlluniau i adeiladau tyrbinau a pheilonau.

Ond mae Mr Rhys yn dadlau, fel y mae nifer o wleidyddion o bob plaid, bod yn rhaid i Gymru a'r Deyrnas Unedig fod yn llai dibynnol ar danwyddau ffosil gan droi at ynni adnewyddadwy.

Mae gwrthwynebwyr ynni gwynt yn honni nad yw'r tyrbinau'n effeithiol ac mai pŵer ysbeidiol sy'n cael ei greu gan y dechnoleg.

Gellir cysylltu gydag Iolo ap Dafydd drwy Twitter @apdafyddi gyda straeon, eich barn ac ymateb.