Llywodraeth am werthu 'adnodd hanfodol'

Ffynhonnell y llun, Other

Disgrifiad o'r llun, Bydd y tir ym Mhwllpeiran yn cael ei werthu fesul tipyn yn hydref 2012

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau ei bwriad i werthu fferm ymchwil ym Mhwllpeiran, Ceredigion, yn ôl yr Aelod Cynulliad Elin Jones.

Eisoes mae undeb NFU Cymru wedi dweud bod hwn yn "adnodd hanfodol".

Dywedodd Ms Jones ei bod wedi trafod y mater gyda'r Dirprwy Weinidog Amaeth, Alun Davies AC, ac wedi derbyn ei lythyr yn cadarnhau ei fod yn bwriadu gwerthu'r tir fesul tipyn yn hydref 2012.

Cwmni ADAS Consulting oedd â'r brydles ond y llynedd dywedon nhw eu bod am ddod â'r brydles i ben.

'Eglurder'

Dywedodd Ms Jones: "Mae'n hanfodol cael eglurder ar y mater o ystyried pwysigrwydd Pwllpeiran fel adnodd ymchwil sylweddol sydd wedi bod yn weithredol ers y cyfnod wedi'r rhyfel.

"Rwy'n siomedig gyda phenderfyniad Llywodraeth Cymru gan y bydd Cymru'n colli ei hunig fferm ymchwil ucheldir.

"Mae'r holl wybodaeth gafwyd yn yr adnodd dros y blynyddoedd yn debyg o gael ei cholli.

"Mae hyn yn destun pryder, yn enwedig gan fod polisi cyhoeddus yn galw am fwy o gynhyrchu bwyd cynaliadwy ac fe fydd y penderfyniad yn sicr yn ergyd i'r ymdrechion hyn yng Nghymru."

Dywedodd ei bod hi'n poeni am ddyfodol aelodau staff ADAS ym Mhwllpeiran.

"Rwy'n deall bod swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cwrdd gyda nhw ac amlinellu'r sefyllfa ac fe fydda i'n gweithio dros y misoedd nesaf i sicrhau eu bod yn derbyn y gefnogaeth angenrheidiol yn ystod y cyfnod anodd hwn."

'Allweddol'

Mae undeb NFU Cymru wedi beirniadu penderfyniad Llywodraeth Cymru.

Dywedodd eu cadeirydd John Davies: "Mae Canolfan Ymchwil Pwllpeiran wedi bod yn allweddol yn natblygiad ffermio ucheldir yng Nghymru ac mae ganddi hanes hir o ymchwil o safon uchel i amaethyddiaeth a rheoli tir ers y 1930au.

"Mae'r gwaith ymchwil wedi bod yn hanfodol i gadw ffermio ucheldir yn gynaliadwy yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol.

"Gyda bron 80% i dir amaethyddol Cymru yn cael ei ddynodi'n Llai Ffafriol, mae adnodd ymchwil fel Pwllpeiran yn strategol hanfodol ddylai gael ei warchod a'i wella yn hytrach na chael ei werthu fesul tipyn.

"Er ein bod yn deall y pwysau ar y pwrs cyhoeddus a'r angen i Lywodraeth Cymru ystyried eu hasedau, rydym yn gobeithio y bydd mwy o feddwl yn cael ei roi i'r posibilrwydd o barhau gyda'r ymchwil allweddol i ffermio'r ucheldir ar y safle drwy gydweithio gyda chorff ymchwil yn y sector preifat neu'r sector cyhoeddus."