Craciau 'ddim yn peryglu awyren' medd Airbus

Ffynhonnell y llun, AP

Disgrifiad o'r llun, Mae adenydd yr A380 yn cael eu hadeiladu ym Mrychdyn

Mae cwmni Airbus yn mynnu nad yw craciau a ganfuwyd yn adenydd awyren A380 yn bygwth diogelwch yr awyren.

Daeth craciau mân i'r amlwg ar grwyn yr adenydd ar rai o'r awyrennau yn Sydney, Awstralia - mae'r adenydd yn cael eu hadeiladu yn ffatri'r cwmni ym Mrychdyn, Sir Y Fflint.

Wrth gyhoeddi bod y craciau wedi dod i'r amlwg, roedd y cwmni'n pwysleisio nad yw diogelwch yr awyrennau dan fygythiad, a bod Asiantaeth Diogelwch Awyrennau Ewrop yn cytuno.

Roedd un o'r awyrennau yn eiddo i gwmni Qantas a'r llall i Singapore Airlines.

"Rydym wedi canfod tarddiad y craciau," meddai llefarydd ar ran Airbus, Stefan Schaffrath.

"Mae Airbus wedi datblygu system o archwilio a thrwsio a fydd yn cael ei wneud yn ystod profion arferol ar yr awyrennau bob pedair blynedd.

"Yn y cyfamser mae Airbus yn pwysleisio nad yw hyn yn effeithio ar ddiogelwch yr awyrennau A380.

"Rydym wedi hysbysu bob cwmni sy'n berchen ar awyrennau A380, ond gallwn gadarnhau nad yw hyn yn effeithio ar berfformiad yr awyren o gwbl."