Chwaraewr rygbi ymhlith y rhai i'w hanrhydeddau

Ffynhonnell y llun, PA

Disgrifiad o'r llun, Derbyn yr MBE y mae Martyn Williams am ei wasanaeth i rygbi yng Nghymru

Ymhlith y Cymry y mae'r Frenhines yn eu hanrhydeddu y mae'r chwaraewr rygbi rhyngwladol Martyn Williams, y cyfansoddwr John Metcalf, y cyn-aelod seneddol Yr Arglwydd Carlile a'r llenor Dannie Abse.

Mae'r pedwar yn rhestr anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd a gafodd ei chyhoeddi ddydd Sadwrn.

Ymhlith yr enwogion y tu allan i Gymru sy'n cael eu hanrhydeddu y mae rhai o fyd y campau a darlledu.

Mae Ronnie Corbett a Helena Bonham Carter yn derbyn y CBE, Darren Clarke a Clive James yr OBE tra bod Rory McIlroy a Chris Patterson yn cael yr MBE.

Fe fydd Williams, sy'n aelod o dîm rygbi'r Gleision, yn derbyn yr MBE am wasanaeth i rygbi.

Ymddeol

Ffynhonnell y llun, Â鶹ԼÅÄ News online

Disgrifiad o'r llun, Enillodd Dannie Abse wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2008

Mae wedi ennill 99 o gapiau dros Gymru ac yn o'r chwaraewyr sydd wedi gwasanaethu ei wlad hira.

Fe wnaeth ymddeol o'r llwyfan rhyngwladol yn 2007 cyn cael ei berswadio i ddychwelyd i wisgo'r crys coch gan yr hyfforddwr Warren Gatland y tymor canlynol.

Roedd wedi gobeithio ennill 100 o gapiau wrth gael ei ddewis fel aelod o garfan Cymru ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd ond fe wnaeth dorri ei fraich ym mis Medi wrth chwarae i'r Gleision.

Mae cadeirydd Y Gleision, Peter Thomas, hefyd wedi ei gynnwys ar y rhestr.

Fe fydd yn derbyn y CBE am wasanaeth i fusnes, chwaraeon ac elusennau yng Nghymru.

Yn derbyn y CBE hefyd y mae'r bardd a'r dramodydd Dannie Abse.

Yn 2008 fe wnaeth ennill Llyfr Saesneg y Flwyddyn am gyfrol The Presence, gafodd ei hysgrifennu ar ôl colli ei wraig fu farw mewn damwain car.

Gwleidyddion

Bydd Yr Arglwydd Carlile o Aberriw hefyd yn derbyn CBE.

Roedd yn Aelod Seneddol Sir Drefaldwyn am 14 blynedd.

Ers 2005 mae wedi bod yn cynnal adolygiad annibynnol o ddeddfwriaeth terfysgaeth.

Gwleidydd arall sy'n cael ei hanrhydeddu yw Joan Ruddock.

Caiff y wraig a anwyd ac a fagwyd ym Mhont-y-Pŵl, ei gwneud yn Farwnes.

Bu'n AS Lewisham Deptford yn Llundain yn 1987, gan wasanaethu yng nghabinet Tony Blair a Gordon Brown.

Mae Jonathan Jones, cyfarwyddwr Twristiaeth a Marchnata Llywodraeth Cymru yn derbyn y CBE hefyd.

Lesotho

Un sy'n derbyn yr OBE yw Carl Clowes.

Mae'n derbyn yr anrhydedd am ei wasanaeth i'r gymuned ar Ynys Môn.

Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation

Disgrifiad o'r llun, Carl Clowes sefydlodd is-genhadaeth Lesotho ar Ynys Môn

"Mae rhywun yn falch iawn bod y gwaith o sefydlu is-genhadaeth Lesotho yma yn Rhoscefnhir yn cael ei gydnabod.

"Yma ar Ynys Môn y mae'r canolbwynt o ran sefydlu perthynas arbennig rhwng llywodraeth Lesotho a ni yng Nghymru a fi yn ffodus yw'r unig ddiplomat yng ngogledd Cymru.

"Mae'n dipyn o glod i Dolen Cymru ein bod wedi gallu sefydlu'r berthynas arbennig rhwng Cymru a Lesotho yn y pen yma o'r wlad.

"Mae'n amlwg yn rhywbeth y mae Swyddfa'r Cabinet yn credu sy'n haeddu cael ei werthfawrogi."

Yr OBE y mae'r Athro Robert Owen Jones yn ei dderbyn hefyd.

Fo yw cyd-lynydd prosiect yr Iaith Gymraeg yn Y Wladfa.

Caiff yr anrhydedd am ei waith yn ceisio diogelu'r Gymraeg yn Yr Ariannin.

Maethu

Caiff y cyfansoddwr John Metcalf o Lanbedr Pont Steffan yr MBE.

Derbyn yr MBE y mae cwpl o Sir Caerffili.

Mae John a Patricia Bonthron wedi bod yn maethu plant am bron i 30 mlynedd.

Dywedodd Mrs Bonthron, 71 oed, eu bod yn cael pleser o faethu plant.

"Mae'n rhoi boddhad i ni ac fe wnawn ni barhau i wneud hyn am flynyddoedd tra ein bod yn iach ac yn gallu gwneud.

"Pan mae'r plant yn dychwelyd at eu rhieni, mae'n foddhad i ni eu gweld yn mynd yn ôl ac yn ymdopi," ychwanegodd y wraig sydd wedi rhedeg cartref nyrsio a chylch chwarae.

Un arall sy'n derbyn yr MBE yw Neil Robinson o Ben-y-Bont ar Ogwr, hyfforddwr tîm tenis Bwrdd Paralympaidd GB.

"Mae'r anrhydedd yn arbennig iawn a dwi'n falch iawn," meddai.

"Pan dderbyniais y newydd fe ges i deimlad cynnes iawn a theimlad o falchder fy mod yn cael fy nghydnabod ar gyfer rhywbeth dwi wedi bod yn gysylltiedig ag o am flynyddoedd."