Y Ffair Aeaf: Ffermwyr yn fwy ffyddiog

Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation

Disgrifiad o'r llun, Mae Cig Oen Cymru wedi llwyddo i gyrraedd y farchnad yng Nghanada

Ar ddechrau'r Ffair Aeaf yn Llanelwedd mae yna awgrym bod ffermwyr yn fwy ffyddiog am eu dyfodol o'i gymharu â'r adeg hon y llynedd.

Roedd dros 60% o'r sawl a gafodd eu holi mewn arolwg gan NFU Cymru yn fwy ffyddiog ynglŷn â'r tymor byr a'r hirdymor a thros 50% yn ystyried cynhyrchu rhagor yn y pum mlynedd nesaf.

Ac yn ystod y Ffair, fydd yn para dau ddiwrnod, mae disgwyl i Gig Oen Cymru gyhoeddi fod mwy o gig oen yn mynd i gael eu hallforio o Gymru i Ganada yn y dyfodol.

Mae Cig Oen Cymru wedi llwyddo i gyrraedd y farchnad yng Nghanada ar ôl taith fasnach lwyddiannus dan ofal yr asiantaeth hyrwyddo cig coch, Hybu Cig Cymru (HCC).

Unedau prosesu cig

"Bu HCC yn arwain taith fasnach i Ganada ddiwedd Medi a chawsom ymateb gwych gan fewnforwyr y wlad," meddai Rheolwraig Datblygu'r Farchnad, Laura Dodds.

Yn ystod y daith fasnach, a barodd am wythnos, canolbwyntiodd y ddirprwyaeth ar Toronto, lle bu cynrychiolwyr HCC a'r cwmnïau prosesu yn ymweld ag Asiantaeth Arolygu Bwyd Canada; chwe darpar mewnforiwr sy'n cyflenwi mân-werthwyr a thai bwyta; ac un o'r prif archfarchnadoedd yng Nghanada.

Yn gynharach eleni gofynnodd HCC i'r awdurdodau yng Nghanada i roi'r hawl i unedau prosesu cig yng Nghymru i allforio Cig Oen Cymru i Ganada.

Fel canlyniad, mae tystysgrifau iechyd allforio ar gyfer Cig Oen Cymru ar gael erbyn hyn i'r holl gwmnïau a wnaeth gais.

Yn ôl canlyniadau ymchwil gan HCC a gyhoeddwyd yn ystod Sioe Frenhinol Cymru ym mis Gorffennaf eleni, mae yna alw cynyddol am Gig Oen Cymru gan drigolion brodorol Canada a phobl sydd wedi symud i fyw i'r wlad.

Mae'r ffigurau'n dangos fod Canadiaid yn 2008 wedi defnyddio 34 miliwn kg o gig oen.

targedau allforio

Roedd ychydig dros hanner ohono - 17.5 miliwn kg - wedi'i gynhyrchu yng Nghanada a'r gweddill wedi'i fewnforio.

Mae'r farchnad yng Nghanada'n dibynnu ar fewnforion cig oen o Seland Newydd, Awstralia ac UDA.

Ond mae'r galw cynyddol am gig oen ledled y byd yn golygu bod Canada yn ei chael ei hun heb ddigon o gig oen gan ei chyflenwyr presennol.

Y llynedd, roedd allforion Cig Oen Cymru yn werth dros £111 miliwn i economi'r DU, a gwerthwyd y rhan fwyaf o'r cig i dir mawr Ewrop.

Ond cafwyd y cynnydd canrannol mwyaf yn y Dwyrain Pell, gydag allforion Cig Oen Cymru i Hong Kong yn cynyddu 35 y cant, a chynnydd o 80 y cant yn yr archebion o Singapôr.

Mae Tsieina hefyd yn un o'r targedau allforio pwysicaf ar gyfer Cig Oen Cymru.

Bu Prif Weinidog Cymru, Crwyn Jones, yn arwain taith fasnach i'r wlad yn ddiweddar.

Y pencampwr seiclo Olympaidd o Gymru, Geraint Thomas, fydd un o'r prif atyniadau yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru eleni.

Yn ôl y trefnwyr mae disgwyl i fwy na 20,000 o bobl ymweld â'r ffair, sy'n cael ei chynnal ar Dachwedd 28 a 29.