To newydd i gartref Hedd Wyn

Ffynhonnell y llun, Other

Disgrifiad o'r llun, Y ffermdy lle cafodd y bardd Hedd Wyn, neu Ellis Humphrey Evans, ei eni a'i fagu

Mae cartref y prifardd Hedd Wyn i gael to newydd.

Mae Yr Ysgwrn yn Nhrawsfynydd ar agor i'r cyhoedd fel cofeb i'r bardd fu farw yn y Rhyfel Byd cyntaf cyn iddo gael ei gadeirio yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw ym 1917.

Yn y ffermdy y cafodd y bardd Hedd Wyn, neu Ellis Humphrey Evans, ei eni a'i fagu.

Y disgwyl yw i'r gwaith toi gymryd pedwar mis i'w gwblhau.

'Yr Arwr'

Mae hanes bywyd a marwolaeth y bardd Hedd Wyn wedi dod yn rhan bwysig o hanes Cymru.

Fe'i lladdwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf yng Ngorffennaf 1917, ond enillodd ei awdl dan y teitl 'Yr Arwr' Gadair Eisteddfod Genedlaethol yr un flwyddyn - hynny chwe wythnos ar ôl ei farwolaeth.

Ffynhonnell y llun, Other

Disgrifiad o'r llun, Bu farw Hedd Wyn ar Orffennaf 31 1917

Dyna pam y cyfeirir at Eisteddfod Genedlaethol 1917 ym Mhenbedw fel 'Eisteddfod y Gadair Ddu'.

Bu Yr Ysgwrn yn gartref i'r Gadair Ddu ers i'r bardd ei hennill 94 mlynedd yn ôl ac mae tua 3,000 o bobl yn ymweld â'r adeilad bob blwyddyn.

Cafodd y ffermdy, sydd wedi ei leoli tua milltir i'r dwyrain o Drawsfynydd, ei adeiladu cyn 1849 ac mae'n adeilad Cofrestredig Gradd II*.

Dywedodd cyfarwyddwr rheoli tir Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Emyr Williams: "Mae Yr Ysgwrn wedi bod ar restr adeiladau mewn perygl am dipyn o amser ac mae'n wych ein bod ni fel awdurdod, gyda help ariannol sylweddol gan CADW, yn gallu gwarchod to'r adeilad pwysig hwn."

'Gofidio'

Bydd pabell fawr yn gorchuddio'r adeilad i warchod tu mewn y tÅ· tra bod yr hen do yn cael ei amnewid gan do newydd.

Dywedodd nai Hedd Wyn, Gerald Williams - perchennog y tÅ· - ei fod yn ddiolchgar am help y Parc Cenedlaethol a Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, sy'n gweithio i sicrhau amgylchedd hanesyddol Cymru.

"Rydw i wedi bod yn gofidio am gyflwr y to am sawl blwyddyn," Meddai Mr Williams.

Y disgwyl yw y bydd y gwaith yn dechrau ar Dachwedd 28.

Yn y cyfamser fe fydd yr adeilad ar gau i'r cyhoedd am resymau iechyd a diogelwch heblaw am drefniadau a gafodd eu gwneud o flaen llaw.