Â鶹ԼÅÄ

Golau newydd ar fywyd Kate Roberts

  • Cyhoeddwyd
Kate RobertsFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y wybodaeth yn cael ei ddatgelu mewn cyfrol a rhaglen deledu

Mae'n debyg y bydd elfennau o fywyd Brenhines Ein Llên nad oedd yn wybyddus yn cael eu datgelu mewn cofiant newydd gan gynnwys ei pherthynas a'i gŵr.

Yr awdur a'r Prifardd Alan Llwyd ddaeth o hyd i'r wybodaeth wrth baratoi cofiant newydd i'r llenor Kate Roberts.

Mae'n bosib bod y wybodaeth yn y cofiant ac mewn rhaglen deledu yn taflu goleuni newydd ar ei bywyd a'i gwaith.

Mae'n debyg mai'r cofiant 'Kate' gan Alan Llwyd yw'r astudiaeth fwyaf trylwyr erioed o fywyd a gwaith yr awdures.

Fe fydd y rhaglen ddogfen yn cael ei chyflwyno gan yr awdur a'r cofiannydd Ffion Hague, sy'n edmygydd mawr o'r llenor.

Bywyd priodasol

Mae Alan Llwyd wedi cael hyd i ddogfennau newydd ymhlith papurau'r awdures sy'n bwrw goleuni ar ei pherthynas gymhleth â'i gŵr.

Bu Kate Roberts yn briod am 18 mlynedd hyd farwolaeth Morris Williams yn 1946.

Bu dyfalu dros y blynyddoedd bod Morris yn cael perthynas hoyw gyda'i ffrind, y bardd E Prosser Rhys.

"Mae 'na wybodaeth yn y cofiant a all syfrdanu pobl - ond does dim byd sensationalist yn y gwaith nac unrhyw ymdrech ynddo i ddifrïo Kate Roberts.

"Cofiant edmygus yw hwn, ond mae dyletswydd ar gofiannydd i gynnwys y dystiolaeth i gyd a'i rhoi yn y cyd-destun cywir yn ei bywyd a'i gwaith."

Bu Alan Llwyd yn twrio drwy ffynonellau newydd, fel llythyrau Kate Roberts at Lewis Valentine ac at ei ffrindiau Olwen Samuel a Cassie Davies, a dau ddyddiadur o 1940 a 1946, gyda dyddiadur 1946 yn dangos dyfnder ei galar yn dilyn marwolaeth ei gŵr.

"Ar ôl marwolaeth Morris yn 1946, fe wnaeth hi chwerwi," ychwanegodd Alan Llwyd.

"Ond mae'r dyddiadur yn egluro pam i raddau a sut y gwnaeth y golled ddylanwadu ar ei gwaith, yn enwedig y nofel Y Byw sy'n Cysgu a'r straeon byrion.

"Roedd Kate Roberts yn pwyso'n drwm ar ei phrofiad personol yn ei llenyddiaeth."

Cyhoeddir y gyfrol Kate: Y Cofiant gan Wasg y Lolfa, prisiau clawr caled: £29.95 neu glawr meddal: £19.95.

Kate: Y Cofiant, nos Sul, Tachwedd 20 am 8.30pm ar S4C a dydd Mawrth Tachwedd 22 am 2.25pm.

Hefyd gan y Â鶹ԼÅÄ

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r Â鶹ԼÅÄ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol