Oedi cyn trawsnewid hen ysgol yn neuadd bentref

Ffynhonnell y llun, Other

Disgrifiad o'r llun, Mae'r gwath o drawsnewid yr hen ysgol ar fin dechrau.

Ar ôl gwaith ditectif barodd rai misoedd mae trigolion pentre' gwledig ar fin dechrau ar y gwaith o drawsnewid hen ysgol gynradd yn Neuadd Bentref.

Bum mlynedd yn ôl penderfynodd Cyngor Sir Caerfyrddin fod ysgol gynradd Trap ger Llandeilo i gau.

Ond nawr, ar ôl sicrhau perchnogaeth o'r adeilad mae'r pentrefwyr wedi gallu sicrhau arian loteri ar gyfer y gwaith adnewyddu.

Roedd Cymdeithas Cymunedol Trap wedi gobeithio ar un adeg i gynnal gweithgareddau yn yr adeilad cyn y Nadolig, gydag agoriad swyddogol yn y Flwyddyn newydd.

Ond oherwydd oedi wrth sicrhau'r arian bydd yn rhaid aros ychydig of fisoedd yn fwy.

Arian Loteri

Dywed y gymdeithas fod sicrhau'r ysgol a'r arian adnewyddu yn hwb i'r gymuned sydd wedi colli siop, ysgol a swyddfa post yn y blynyddoedd diwethaf.

Yn 2006 fel rhan o gynllun ad-drefnu addysg gynradd yn sir Gaerfyrddin roedd Ysgol Gynradd Trap ger Llandeilo yn un o nifer o ysgolion cynradd i gau.

Ar y pryd dywedodd y pentrefwyr eu bod am gael defnydd o'r ysgol ar gyfer yr ardal.

Gwnaed cais i'r Loteri am arian ac fe gafodd ei gymeradwyo ar yr amod mai'r pentrefwyr oedd yn berchen ar yr adeilad.

Ond roedd y gwaith o drosglwyddo'r eiddo i'r pentrefwyr yn anoddach na'r disgwyl.

Cyfrifoldeb

Dywedodd Cyngor Sir Caerfyrddin, er mai nhw oedd yn gyfriol am yr adeilad nid nhw oedd y perchnogion.

Roedd yr adeilad wedi ei roi i Eglwys Lloegr yn 1888 gan Arglwyd Dinefwr, er mwyn addysgu plant lleol.

Yn 1920 gyda'r Ddeddf Datgysylltu, cafodd y cyfrifoldeb hwnnw ei drosglwyddo i'r Eglwys yng Nghymru, ac yna yn 1948 i Gyngor Sir Caerfyrddin.

Roedd yr ysgol fodd bynnag dal yn eiddo i Ystad Arglwydd Dinefwr.

Llwyddodd y pentrefwyr i gael y caniatâd angenrheidiol i ddod yn berchnogion fis Awst eleni.

Cychwyn ar y gwaith

Bryd hynny cytunodd y loteri i ryddhau'r arian, £136,469, ar gyfer adnewyddu'r adeilad a'i droi yn Neuadd Bentref.

Dywedodd John Hasting, Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr, eu bod bellach wedi penodi contractwyr ac y bydd y gwaith adnewyddu yn dechrau cyn hir.

"Rydym wedi colli Swyddfa'r Post, ysgol bentref a siop.

"Mae'n dda bod rhywbeth newydd yn dod i'r gymuned."

Bydd y Neuadd Bentref yn cynnwys caffi rhyngrwyd, ac mae yna hefyd fwriad i sefydlu cangen o swyddfa'r post a siop o fewn yr adeilad maes o law.

Mae tua 120 o gartref yn y gymuned sydd ryw dair milltir o Landeilo.

Mae'r neuadd bentref neu gymunedol agosaf yn Llandyfan, sydd tua dwy filltir i ffwrdd.