Airbus yn agor ffatri adenydd newydd ar gyfer yr A350

Ffynhonnell y llun, Other

Disgrifiad o'r llun, Dywed Airbus bod y "ffatri newydd yn arwydd o ddiogelu swyddi i'r dyfodol"

Mae ffatri newydd gwerth £400 miliwn yn cael ei hagor yn swyddogol ar safle Airbus yn Sir y Fflint.

Fe fydd gwaith adeiladu'r adenydd ffibr carbon ar gyfer awyren newydd A350 yn cael ei wneud yn yr adeilad.

Mae'r cwmni yn cyflogi 6,000 o weithwyr ym Mrychdyn a bydd y Ffatri Ogleddol newydd yn ehangu'r gwaith yno.

Dyma'r safle cynhyrchu unigol fwya yn y DU.

Bydd modd i'r awyren A350 gario hyd at 340 o deithwyr ac mae disgwyl i'r awyrennau cyntaf fod yn gwasanaethu cwsmeriaid erbyn 2013.

Yn ôl Airbus fe fydd yn diogelu swyddi am y blynyddoedd nesaf.

Mae gan y cwmni eisoes archebion am 550 o'r awyrennau.

Fe fydd dros hanner yr adenydd yn cael eu gwneud o ffibr carbon ac yn ôl y cwmni fe fydd yr awyren A350 25% yn fwy effeithiol o ran tanwydd na'r awyrennau eraill o'r un maint.

Bydd tua 650 o bobl yn gweithio yn y ffatri newydd 46,000 metr sgwâr.

Dyma'r agoriad ffatri fwya ym Mrychdyn ers iddyn nhw agor y Ffatri Orllewinol yn 2003 er mwyn adeiladu adenydd ar gyfer yr awyren jumbo A380.

Technoleg ddiweddara

"Mae gan Frychdyn hanes balch iawn, 70 mlynedd o hanes ym myd adeiladu awyrennau," meddai Paul McKinlay, pennaeth safle Airbus ym Mrychdyn.

"Mae'n wych gweld ein bod yn dal ar y blaen o ran technoleg gyda'r prosesau diweddara.

"Dwi'n hynod o falch bod Brychdyn yn rhan o hyn.

"I'r gweithwyr, mae'r ffatri newydd yma a'r awyren newydd yma yn arwydd o ddiogelu swyddi dros y blynyddoedd nesaf.

"i'r 6,000 o weithwyr yma, mae'n newyddion gwych."

Ffynhonnell y llun, Other

Disgrifiad o'r llun, Darlun cyfrifiadur o'r Airbus A350 yn yr awyr

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi bron i £29 miliwn mewn hyfforddiant arbenigol i adeiladu'r adenydd ac at gynhyrchu blaengar ym Mrychdyn.

Mae disgwyl i Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, fod yn yr agoriad ddydd iau.

"Mae'n ddiwrnod gwych, nid yn unig i Airbus ond i Gymru hefyd.

"Caiff yr adenydd eu gwneud yma ac yn ein harddangos ni ar ein gorau - yn gwmni byd-eang yng Nghymru yn gwneud cynnyrch a fydd yn cael ei ddefnyddio ym mhedwar ban.

"Mae gan Lywodraeth Cymru berthynas waith agos a da gydag Airbus sy'n gwmni pwysig i'r wlad.

"Rydym wedi buddsoddi £29 miliwn er mwyn sicrhau bod y Ffatri Ogleddol yn agor yma yng Nghymru ac y bydd modd i adenydd yr A350 gael eu hadeiladu yma."

Dywedodd LlÅ·r Huws Gruffydd, AC Gogledd Cymru dros Blaid Cymru, bod y newyddion yma yn dangos hyder yn y gweithlu lleol.

"Pan mae hi'n amser anodd i ganfod gwaith, mae swyddi arbenigol fel yma yn y ffatri newydd yn bwysig iawn."

Mae awyren yr A350 yn cystadlu yn erbyn awyren Boeing Dreamliner 787, a oedd i fod yn yr awyr erbyn 2008 ond sydd wedi ei ohirio.

Mae gan Boeing 821 archeb am yr awyren 787, sydd, yn ôl y cwmni 20% yn fwy effeithiol o ran tanwydd.