Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
C2 ar Radio Cymru

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
HAFAN Cymru

Chwaraeon
Radio Cymru
C2
Adolygu CDs
Adolygu Gigs
Amserlen
Cyflwynwyr
Cysylltiadau
Dewis Huw
Dewis Huw
Dewis Lisa
e-Gofnod
Galeri C2
Gêm C2
Gigs
³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü
Gwesteion
Labeli
Newyddion
Prynu ar y we
Sesiwn Acwstig
Sesiwn C2
³§³Ù´Ç°ùï²¹³Ü
Siart

Bitesize TGAU
Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
C2 ar Radio Cymru C2 ar Radio Cymru
Mattoidz, Sleifar, Java
Caerfyrddin, Medi 2004
Lowri Johnston


Lle a phryd
Neuadd San Pedr, Caerfyrddin. Nos Wener, Medi 17eg, 2004

Y bandiau
Garej Dolwen, Rasputin, Java, Chef (oherwydd absenoldeb Lo-Cut) a Sleifar, Mattoidz.

Awyrgylch
Mae'r awyrgylch yn grêt, a'r lle yn llawn yn reit gynnar. Mae gan pob band llawer o gefnogwyr yn y gynulleidfa, sy'n sicrhau bod pob band yn cael ymateb da.

Trac y noson
Sos Coch gan Mattoidz. Dyma'r trac chwaraeon nhw i orffen y set, gan newid y geiriau i "Ti'n dweud Carmarthenshire, Dwi'n dweud Sir Gaerfyrddin".

Gan mai noson "Herio'r Welsh Not" oedd hon, ac i helpu'r ymgyrch i gael Radio Carmarthenshire i roi mwy o ddefnydd i'r Gymraeg gan ei wneud hi'n orsaf "ddwyieithog" fel mae'n nhw'n dweud ydyn nhw, mae pawb yn mynd yn nyts yn ystod y gân yma, gan arddangos teimladau cryf pobl ifanc yr ardal at y mater.

A dweud y gwir, mae pob band heno yn chwarae cân sy'n cwestiynnu statws yr iaith Gymraeg, ac agwedd pobl tuag ati. Pwy ddwedodd bod pobl ifanc yn apathetig?



Disgrifiwch y perfformiadau
Garej Dolwen sy'n agor y noson. Dyna i gyd alla i ddweud am y perfformiad yw dydyn nhw ddim y fath o gerddoriaeth dwi fel arfer yn hoffi. Merch sy'n ffryntio, ac mae ganddi lais neis iawn, ond dyna fe - mae'r set cyfan yn 'neis' a dim byd arall. Does dim 'wmff' yma, dim egni na gwir arddeliad. Er hynny, ceir tipyn o amrywiaeth yn y set, a rhai caneuon yn well na'i gilydd, ond ar y cyfan, doedd e ddim at fy nant i.

Mae Rasputin ar y llaw arall yn llawn arddeliad. Dyma sypreis gorau'r noson - dwi erioed wedi clywed y band yma o'r blaen, ond fe fwynheais eu set yn fawr. Mae'r gân gyntaf (nes i ddim dal yr enw sori!) yn wych, ac yn dal sylw'r gynulleidfa yn syth. Wrth iddynt wneud eu fersiwn nhw o 'Johnny B Good', mae pawb yn rhedeg i flaen y llwyfan ac yn dawnsio'n wyllt. Mae hyn yn anffodus braidd, achos mae nhw'n chwarae'r gân ddwywaith ac mae'r ail dro yn para am oes. Quit while you're ahead bois.

Java sy'n dilyn. Wedi ennill cystadleuaeth brwydr y bandiau C2 ac yn gyd- enillwyr yng nghystadleuaeth brwydr y bandiau Cymdeithas yr Iaith yn Eisteddfod Casnewydd, mae'r band yma wedi cael tipyn o sylw'n ddiweddar. Does dim dwywaith bod yma dalent a photensial i ddatblygu ymhellach. Gyda'u cerddoriaeth steil 'Rage-Against-The-Machine-aidd', mae'n llawn caneuon gafaelgar ac egnïol. Gwyliwch allan amdanyn nhw.

Gan nad yw Lo-Cut yn medru bod yn bresennol heno, Chef (o'r Tystion gynt) sy'n cymryd ei le ar y meic gyda Sleifar. Mae yna bartneriaeth arbennig rhwng Chef a Sleifar, a gobeithio yn wir y cawn glywed mwy ganddynt yn y dyfodol. Gyda Aled 'psycho' o'r grŵp lleol y Supernaughts ar y bas, mae'r set gyfan yn dynn ac yn bendant yn uchafbwynt.

Mattoidz sy'n cloi'r noson. Does dim dwywaith bod y band yma wedi datblygu yn aruthrol ers dechrau'r flwyddyn - dyma ddangos cymaint mae band yn medru gwella gydag ymarfer, dyfalbarhad a thipyn o amynedd. Prynu Ty yn Tidrath a Sos Coch yw dau o uchafbwyntiau'r set, ac mae nhw wir yn rocio a'r gynulleidfa yn dwlu arnyn nhw. Da iawn i'r bandiau i gyd a da iawn i Gymdeithas yr Iaith am drefnu gig mor wych!



Y peth gwaethaf am y noson
Maint y bar! Llawer rhy fach, ond fe wnaeth e'r job yn iawn!

Achlysur Roc a Rôl
Gitarydd Rasputin yn crowd syrffio ar ddiwedd eu set!

Beth sy'n aros yn y cof?
Y dawnsio gwyllt, a chymaint o bobl ifanc yr ardal oedd yno yn dawnsio ac yn mwynhau - mae yna obaith wedi'r cyfan!

Talent gorau'r noson
Rasputin oedd y sypreis gorau o ran talent newydd, ond Chef a Sleifar oedd yr uchafbwynt.

Marciau allan o ddeg
9

Un gair am y gig
Gobaith

Unrhyw sylwadau eraill?
Mae heno wedi dangos yn fwy na dim, bod hi'n amhosib anwybyddu'r hyn sy'n mynd ymlaen yng Nghymru ac yn y Sîn Gerddoriaeth yma. Gobeithio mai yn hwyr yn hytrach na'n hwyrach bydd pobl yn dechrau sylweddoli hyn.

Holl raglenni C2, ar gael i wrando eto unrhyw amser am 7 diwrnod.

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Gwylia hwn!

Fideos a setiau byw o gigs gorau'r Steddfod!



Amserlen C2:
Wythnos y Cyflwynwyr

Cysylltiadau, artistiaid, bandiau...


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý