Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
C2 ar Radio Cymru

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
HAFAN Cymru

Chwaraeon
Radio Cymru
C2
Adolygu CDs
Adolygu Gigs
Amserlen
Cyflwynwyr
Cysylltiadau
Dewis Huw
Dewis Huw
Dewis Lisa
e-Gofnod
Galeri C2
Gêm C2
Gigs
³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü
Gwesteion
Labeli
Newyddion
Prynu ar y we
Sesiwn Acwstig
Sesiwn C2
³§³Ù´Ç°ùï²¹³Ü
Siart

Bitesize TGAU
Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
C2 ar Radio Cymru C2 ar Radio Cymru
Miri Myrddin
Caerfyrddin, Mehefin 26
Gan Lowri Johnston


Adolygwr
Lowri Johnston

Lle a phryd
Clwb y Quins yng Nghaerfyrddin, Mehefin 26

Yr Artistiaid
Pedwar band yr ardal yn cymryd rhan, a 3 beirniad o fandiau blaenllaw Cymru - Huw (Bass, Kentucky AFC), Gethin (Drymiau, Kentucky AFC) ac Owain (King 'Biwt)

Disgrifiwch y perfformiadau
Y peth cyntaf wnaeth fy nharo wrth gerdded mewn i glwb y Quins yng Nghaerfyrddin oedd cymaint o blant oedd yn y gig. Tic i Menter Myrddin am ddenu plant yr ardal o'u teledu i gig Cymraeg felly.

Y cyntaf ar y llwyfan oedd Trydan, band ifanc iawn (yr holl aelodau dan 12 oed) o Ysgol Tre-gib, Llandeilo. Fel ddywedodd Gethin yn y feirniadaeth - mae'r potensial yma i fod yn un o fandiau gorau Cymru yn y dyfodol.

Yn ail ar y llwyfan oedd Amylder, gan gymryd lle y band Brechdan Tywod oedd i fod i chwarae heno. Eto, band â photensial - a gyda phrofiad bydd eu sŵn yn datblygu.

Dau aelod oedd i fand Cŵn Poeth, a dyma fand swynol gyda chaneuon â melodi hyfryd. Er hynny, efallai byddai'r band acwstig yma'n elwa o chael band llawn - bass a dryms - ar adegau.

Yn olaf ar y llwyfan oedd Garej Dolwen, o Grymych. Faswn i'n dweud mai dyma oedd band mwyaf profiadol y noson. Roedd gan y ddwy oedd yn canu leisiau da, ac roedd eu can olaf - siarad - yn dda iawn. Offerynwyr da, a llawer o botensial.

A'r canlyniad felly?
Gyda'r beirniaid i gyd i'w gweld wedi plesio gan y pedwar band, roedd y dewis yn anodd. Ond dyma fe - Garej Dôlwen yn gyntaf, Cŵn Poeth yn ail, Trydan yn drydydd a Amylder yn bedwerydd. Llongyfarchiadau mawr iddynt oll, a daliwch ati. Fe fydd Garej Dôlwen a Cŵn Poeth trwyddo i'r rownd nesaf, ac o bosib Trydan ( i weld yr holl fanylion)

Ac ar ôl noson o gystadlu brwd, be well na Kentucky AFC i gloi'r noson? Yn anffodus, wrth iddynt ddod ar y llwyfan, mae'r ystafell yn gwagio yn sydyn - trueni, achos holl bwynt y noson yma oedd bod y bandiau ifanc yn cael cyfle i chwarae gig gyda band mwy profiadol.

Cafwyd set da iawn gan Kentucky AFC, gan gynnwys y ffefryn 'Unarddeg' a fersiwn o gân y Gorky's (priodol iawn i gig yng Nghaerfyrddin wrth gwrs - ond ysgwn i sawl un o blant ifanc y gynulleidfa oedd yn sylweddoli hyn?), Iechyd Da.

Mae'n edrych yn debyg mai carfan gwahanol o bobl ddenodd Kentucky AFC i'r gig, a bod y plant wedi colli diddordeb wrth iddynt ddechrau chwarae. Syndod mawr rhaid dweud, gan eu bod yn fand â chaneuon mor egniol. Fe ffeindiais hi'n anodd i dynnu fy llygaid i ffwrdd o'r llwyfan a dweud y gwir! Ar y llaw arall, doedd y plant ddim i'w gweld yn sylweddoli bod y band wedi gorffen hyd yn oed. Ar ôl y sypreis neis o weld ystafell lawn wrth gyrraedd, dyma siom i orffen y noson.

Ond, ar y cyfan, noson dda iawn, gan arddangos talent yr ardal. Cofiwch bleidleisio am y band rydych chi eisiau i ennill!



Holl raglenni C2, ar gael i wrando eto unrhyw amser am 7 diwrnod.

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Gwylia hwn!

Fideos a setiau byw o gigs gorau'r Steddfod!



Amserlen C2:
Wythnos y Cyflwynwyr

Cysylltiadau, artistiaid, bandiau...


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý