Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
C2 ar Radio Cymru

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
HAFAN Cymru

Chwaraeon
Radio Cymru
C2
Adolygu CDs
Adolygu Gigs
Amserlen
Cyflwynwyr
Cysylltiadau
Dewis Huw
Dewis Huw
Dewis Lisa
e-Gofnod
Galeri C2
Gêm C2
Gigs
³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü
Gwesteion
Labeli
Newyddion
Prynu ar y we
Sesiwn Acwstig
Sesiwn C2
³§³Ù´Ç°ùï²¹³Ü
Siart

Bitesize TGAU
Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
C2 ar Radio Cymru C2 ar Radio Cymru
Y Panics
Caerfyrddin, Meh 2004
Lowri Johnston


Adolygwr
Lowri Johnston

Lle a phryd
Clwb Rygbi'r Quins, Caerfyrddin 18/6/04

Yr Artistiaid
Y Panics

Disgrifiwch yr awyrgylch a'r perfformiad
Mae'r Panics wedi bod yn weddol dawel yn ddiweddar, ac felly syndod a siom o'r mwyaf oedd cyn lleied o bobl ddaeth i gig cynta'r band mewn tua 6 mis yn y ardal. Bai'r hysbysebu - neu'r diffyg - o bosib (ie, yr un hen esgus!).

Er bod y lle bron yn wag, mae pawb sydd yno yn ddigon hwylus - a dyw'r gwacter ddim i'w weld yn effeithio'r band heno chwaith. A dweud y gwir, mae'n ymddangos eu bod yn chwarae i ystafell orlawn yn lle y llond dwrn sydd yma.

Ac fel dilynwyr selog y band yma, rhaid dweud mai dyma un o'r perfformiadau gorau dwi wedi gweld gan Y Panics ers sbel. Dyw hyd yn oed absenoldeb Nia Medi (llais) ddim yn effeithio rhyw lawer, gyda Fflur Dafydd yn llawn digon abl i gynnal y sioe.

Set digon chilled yw hi ar y cyfan - ond mae dal yn llawn o'r hen ffefrynnau - Dyn Tywydd, Leicra Lan Lofft, Mr Bean, Ladies. Yng nghanol y set mae Fflur Dafydd yn cyfnewid y gitâr acwstig am yr allweddellau, a dyma yw uchafbwynt y set i mi.

Mae'n chwarae cân newydd acwstig - heb deitl - sydd wedi cael ei hysgrifennu ar y cyd gyda ffrind o'r Iwerddon (Gwyddelod yw hanner y gynulleidfa a dweud y gwir - lle mae'r bobl leol?), ac mae'n hollol wych. Cân yw hi am golli plentyndod, ac mae'n cael sylw y gynulleidfa i gyd yn syth - pawb ar goll yn ei melodi hyfryd, a phawb ar fîn cwympo i gysgu. Ond, mae'r Panics yn adnabod eu cynulleidfa yn dda, ac yn chwarae Elin Royles i ddilyn - can â fwy o fynd iddi i ddihuno pawb!

Ffefryn arall i bawb o'r Gorllewin yw Pobl Chips - cân am ferched siop sglodion Crisp & Fry yng Nghaerfyrddin - lle sy'n bererindod i drigolion y dre ar ôl noson allan! Mae'r gân Ladiesi orffen yn ysgogi rhai i ddawnsio (o'r diwedd!) - a'r band i'w gweld yn falch o'r cwmni!

Mae'r band i'w gweld yn datblygu yn dda ac mae'n heb bryd am albwm - dewch 'mlaen bois! Yn anffodus, does dim llawer o ddyddiadau wedi eu trefnu (eto!) ar gyfer gigs dros yr haf (gyda Betsan yn byw yn y Gogledd, mae'r band yn ei ffeindio'n anodd i gynnal ymarferion), felly peidiwch a'u colli nhw ar y nos Wener yn gig Cymdeithas yr Iaith yn yr Eisteddfod.



Holl raglenni C2, ar gael i wrando eto unrhyw amser am 7 diwrnod.

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Gwylia hwn!

Fideos a setiau byw o gigs gorau'r Steddfod!



Amserlen C2:
Wythnos y Cyflwynwyr

Cysylltiadau, artistiaid, bandiau...


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý