Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
C2 ar Radio Cymru

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
HAFAN Cymru

Chwaraeon
Radio Cymru
C2
Adolygu CDs
Adolygu Gigs
Amserlen
Cyflwynwyr
Cysylltiadau
Dewis Huw
Dewis Huw
Dewis Lisa
e-Gofnod
Galeri C2
Gêm C2
Gigs
³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü
Gwesteion
Labeli
Newyddion
Prynu ar y we
Sesiwn Acwstig
Sesiwn C2
³§³Ù´Ç°ùï²¹³Ü
Siart

Bitesize TGAU
Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
C2 ar Radio Cymru C2 ar Radio Cymru
Texas Radio Band
Abertawe, Mai 2004
Eiry Miles


Lle a phryd
TÅ· Tawe, Nos Wener Mai 21

Y band
Texas Radio Band

Awyrgylch
Unwaith y mis, cynhelir noson 'Gwener y Grolsch' yn Nhŷ Tawe, sef noson o gerddoriaeth fyw. Cyn sefydlu'r noson ddwy flynedd yn ôl, roedd y cyfleoedd i glywed cerddoriaeth Gymraeg yn brin yn Abertawe.

Bellach, mae nos Wener ola'r mis yn ddyddiad pwysig yng nghalendr Cymry Cymraeg ifanc yr ardal, a llawer o bobl ddi-Gymraeg sy'n mwynhau clywed cerddoriaeth o safon uchel.

Er nad yw'n dal mwy na 90 o bobl, mae neuadd TÅ· Tawe'n lle ardderchog i gael gig. Mae'r goleuadau'n isel, lliwiau cynnes, croesawgar ar y waliau, awyrgylch gyfeillgar, pris y diodydd yn rhad a bar bach clyd yn y cefn i'r rhai sydd am sgwrs ac eiliad o dawelwch.

Roedd tua chwe deg yno nos Wener diwethaf, a'r mwyafrif helaeth yn ddisgyblion chweched dosbarth. Yn anffodus, diflannodd llawer ohonyn nhw i fusnesu ar griw rhaglen Bandit, oedd yn holi pobl y tu allan. Ar un adeg, roedd y neuadd bron yn wag. Ond, llwyddodd y gerddoriaeth i'w denu yn ôl erbyn diwedd y noson.

Trac y Noson
I mi, trac y noson oedd 'Rhan o Ni'. Roedd arddeliad yn y perfformiad - rhywbeth oedd ar goll yn y caneuon eraill.

Y perfformiadau
Roedd sawl aelod o'r band yn absennol - dim ond y canwr, y drymiwr a'r basydd oedd yno. Doedd dim ots am hynny gan eu bod nhw'n offerynwyr gwych a'u sŵn tynn yn llenwi'r neuadd fach, ond teimlwn eu bod nhw braidd yn ddi-hyder heb y lleill.

Roedd ymateb y gynulleidfa'n wan ar y dechrau, gan fod y seibiannau hir rhwng y caneuon yn difetha'r awyrgylch. Cafwyd gormod o ganeuon araf ar y dechrau, ac eisteddai'r canwr yn wynebu'r ochr. Ni siaradodd â'r gynulleidfa o gwbl heblaw am ryw fwmial aneglur diamynedd o dro i dro, a threuliodd oesoedd yn ffysian ac yn tiwnio'i gitâr. Roedd fel tasai'n canu ar ei ben ei hun yn ei ystafell wely, yn hytrach nag o flaen cynulleidfa.

Diolch byth, cyn i bawb golli diddordeb, cododd ar ei draed i ganu Baccta Crackin' a dechreuodd y gynulleidfa ddawnsio. Wedi hynny, ad-ennillodd y band eu hyder, ac aeth eu perfformiad yn gryfach ac yn wylltach. Ymhen tipyn, roedd y llwyfan bach simsan yn crynu cymaint nes ei fod bron â dymchwel, a phawb yn cael amser wrth eu boddau.

Uchafbwynt y noson
Uchafbwynt y noson oedd y caneuon olaf. Erbyn hynny, roedd sylw pawb wedi'i hoelio ar y llwyfan, roedd y llawr dawnsio'n llawn a'r band wedi cynhesu ac yn fwy hyderus. Trueni felly iddyn nhw orffen chwarae mor gynnar - roedd pawb yn ysu am fwy erbyn yr encore.

Y peth gwaethaf am y noson
Bydda' i'n swnio fel hen wraig, ond rhaid dweud bod gormod o feedback ar adegau.

Achlysur Roc a Rôl
Cafwyd perfformiad karaoke arbennig o ganeuon MC Saizmundo a Goldie Lookin' Chain gan rai o aelodau mwyaf parchus y gynulleidfa ar ddiwedd y noson.

Beth sy'n aros yn y cof?
Gweler uchod

Talent gorau'r noson
Er iddo roi perfformiad mewnblyg a di-fflach, rhaid cyfaddef bod Matthew y canwr yn eitha golygus, mewn ffordd moody a thywyll.

Marciau allan o ddeg
Hoffwn i roi marc uchel gan fod Texas Radio Band yn un o fandiau mwyaf gwreiddiol a thalentog y sîn ar hyn o bryd, ond cymeron nhw lawer gormod o amser i fagu hyder. 5.5/10

Un gair am y gig
Gweddol.

Unrhyw sylwadau eraill? Cynghorion? Rhybuddion?
Fy nghyngor i Texas Radio Band yw na ddylen nhw ganu cymaint o ganeuon araf ar y dechrau, ac y dylai'r canwr ganu i'r gynulleidfa yn hytrach na'i draed.

Lincs gwefan



am y diweddara o Texas Radio Band

Mwy o gigs ar safle'r de orllewin



Holl raglenni C2, ar gael i wrando eto unrhyw amser am 7 diwrnod.

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Gwylia hwn!

Fideos a setiau byw o gigs gorau'r Steddfod!



Amserlen C2:
Wythnos y Cyflwynwyr

Cysylltiadau, artistiaid, bandiau...


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý