Â鶹ԼÅÄ

Hanes Abertawe

top
Abertawe

Man geni Dylan Thomas a Catherine Zeta Jones a chartref yr Elyrch, dyma ddinas sy'n llawn hanes a chymeriad.

Y Llychlynwyr

Darlun o Sweyne Forkbeard
Darlun o Sweyne Forkbeard

Mae dinas Abertawe yn gorwedd ym Mae Abertawe sy'n ymestyn am bum milltir o'r ardal arforol yn y ddinas i bentref y Mwmbwls yn y gorllewin.

Ychydig filltiroedd ymhellach i'r gorllewin mae ardal brydferth Penrhyn Gŵyr. Y Rhufeiniaid oedd yr ymsefydlwyr cyntaf yn yr ardal. Fe aethant hwy ati i adeiladu caer yn Llwchwr er mwyn gwarchod y man croesi ar afon Llwchwr.

Mae hanes Abertawe ei hun yn mynd yn ôl i oes y Llychlynwyr a gafodd eu denu yma oherwydd y lleoliad gan fod afon Tawe yn llifo i Fôr Hafren yma. Aethant ati i enwi'r ardal ar ôl y brenin Llychlynaidd Sweyne Forkbeard a'i alw'n Sweyne's Eye sef Ynys Sweyne.

Hanes y Castell

Castell Abertawe
Castell Abertawe

Yn ystod y canrifoedd wedyn datblygodd Abertawe i fod yn dref farchnad gyda phorthladd llewyrchus.

Dechreuodd Abertawe ddatblygu o ddifri wedi dyfodiad y Normaniaid yma yn yr 11eg ganrif. Fe adeiladwyd castell yma ganddyn nhw yn y 12fed ganrif a datblygodd y dref o amgylch y castell hwnnw.

Saif castell Abertawe fry ar y bryn. Ers talwm arferai afon Tawe lifo oddi tano. Roedd hwn yn safle strategol dda gan mai dyma lle roedd man croesi isaf yr afon, roedd y brif ffordd rhwng y gorllewin a'r dwyrain yn mynd heibio'r safle ac roedd yma harbwr. Heddiw dim ond rhan fechan o'r castell diweddaraf sydd i'w weld yma.

Datblygiad Pellach

y Mwmbwls
y Mwmbwls

Mae hanes y castell yn un cythryblus. Ymosododd y Cymry droeon ar y castell Normanaidd hwn. Sefydlwyd y castell gan Henry de Beaumont, ffrind Harri'r I er mwyn gwarchod arglwyddiaeth Gŵyr. Roedd Harri'r I wedi rhoi'r arglwyddiaeth honno iddo ym 1106. Castell tomen a beili oedd hwn. Ymosododd y Cymry arno ym 1217 ac wedi hynny cafodd ei ailgodi gyda cherrig. Dyma'r 'hen gastell' a does dim ohono i'w weld heddiw.

Mae olion y castell a welir heddiw yn perthyn i'r 'castell newydd'. Adeiladwyd hwn ar safle mynwent. Mae'r 'castell newydd' yn dyddio o ddiwedd y 13eg ganrif neu ddechrau'r 14eg ganrif. Roedd yn parhau i fod yn ganolfan weinyddol ond i raddau llai. Roedd yn well gan ei berchnogion, teulu'r Brewys, fyw yng nghastell Ystumllwynarth. Dirywio wnaeth y castell wedi hynny ac yn nechrau'r 14eg ganrif gwerthwyd y gatiau a thyrau'r beili.

Ffynnodd Abertawe wedyn fel tref farchnad fechan gyda'i phorthladd. Yna datblygodd y dref yn sylweddol yn ystod y 18fed ganrif pan ddechreuwyd cloddio glo yng Nghwm Tawe a'r cymoedd cyfagos. Ymhen dim roedd glo yn cael ei gloddio ar raddfa fawr a dechreuwyd ei allforio ar hyd afon Tawe i borthladd Abertawe. Yn ystod y 19eg ganrif datblygwyd y dociau a'r camlesi ymhellach.

Diwydiant yn tyfu

Roedd y glo'n cael ei ddefnyddio hefyd i doddi haearn, copr, sinc a thun yng Nghwm Tawe, Tre-gŵyr a Phontarddulais. Daeth ardal Abertawe yn un o ganolfannau diwydiannol mwyaf blaengar y byd yn ystod y cyfnod hwn.

Y prif reswm am hynny oedd porthladd Abertawe a'i safle. Roedd yn agos i'r cyflenwadau glo a roedd y glo'n gallu cael ei gludo'n hawdd drwy'r rhwydwaith o gamlesi a rheilffyrdd. Yn ystod y 19eg ganrif Abertawe oedd prif borthladd Cymru cyn i Gaerdydd gipio'r safle yn niwedd y ganrif.

Yn ystod y cyfnod hwn trodd y diwydianwyr, dref marchnad Abertawe yn ganolfan drefol fodern a chrewyd datblygiadau pwysig fel Trên y Mwmbwls. Hwn oedd y trên cyntaf erioed i gludo teithwyr ac fe gludai ymwelwyr o Abertawe i dref glan môr y Mwmbwls. Datblygodd Abertawe yn ardal fasnachol a diwydiannol oedd yn boblogaidd iawn yn arbennig ymysg y dosbarth canol ac uwch.

Abertawe a'r Ail Ryfel Byd

Effeithiau'r Blitz
Effeithiau'r Blitz

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd cafodd y ddinas ei bomio'n drwm. Er hyn mae Abertawe wedi llwyddo i gadw llawer o'i nodweddion hanesyddol. Mae'r rhain yn bodoli ochr yn ochr â'r adeiladau modern a adeiladwyd wedi'r rhyfel. Canlyniad hyn yw'r cyferbyniad dramatig ym mhensaernïaeth y ddinas heddiw. Wedi 1945 mae'r datblygiadau wedi digwydd yn bennaf yn ardal y bae gyda'r maestrefi yn tyfu hefyd.

Adeiladau'r Ddinas

Uwch yr eira, wybren ros, Lle mae Abertawe'n fflam. Cerddaf adref yn y nos, Af dan gofio 'nhad a 'mam. Gwyn eu byd tu hwnt i glyw, Tangnefeddwyr, plant i Dduw.

Waldo Williams

Yn 1982 agorwyd marina Abertawe. Hwn yw canolbwynt yr ardal arfordirol. Mae'r marina'n denu cychod o bob rhan o'r byd. Yma hefyd mae dros fil o dai.

Mae nifer o adeiladau diddorol yn ninas Abertawe. Un ohonynt yw'r Guildhall a agorwyd ym 1934. Mae'r adeilad wedi bod yn ganolfan i lywodraeth leol a materion cyfreithiol a dyma un o brif ganolfannau cymdeithasol a diwylliannol Abertawe.

Mae Neuadd y Brangwyn yn rhan o'r Guildhall. Yn y neuadd cynhelir cyngherddau a chynadleddau. Yma mae Paneli'r Brangwyn sydd hefyd yn cael eu hadnabod fel Paneli'r Ymerodraeth Brydeinig. Fe'u lluniwyd gan Syr Frank Brangwyn, artist Prydeinig pwysig.

Mae hanes diddorol i'r paneli hyn. Yn 1924 penderfynodd Ty'r Arglwyddi goffau'r Rhyfel Byd Cyntaf drwy gwblhau'r addurniadau Fictoraidd oedd yn cael eu gwneud yn yr Oriel Frenhinol ym Mhalas Westminster. Dewiswyd Frank Brangwyn i gwblhau'r gwaith.

Roedd Brangwyn eisoes yn artist byd enwog. Bwriad Brangwyn oedd bywiogi'r oriel gyda darluniau lliwgar o diriogaethau Prydain.

Ond datblygodd cynnwrf ymysg y cyhoedd pan welsant y gwaith gorffenedig. Roedden nhw'n credu ei fod yn llawer rhy lliwgar a bywiog. Felly gwrthodwyd y gwaith.

Yna penderfynwyd y byddai'r paneli'n mynd i'r Guildhall, Abertawe gan gynyddu uchder y to i'w gosod yno. Fe'u gosodwyd yno ym 1934. Galwyd y neuadd hon oedd yn rhan o'r Guildhall yn Neuadd y Brangwyn.

Neuadd Brangwyn
Neuadd Brangwyn

Adeilad pwysig arall yn Abertawe yw Theatr y Grand sydd yng nghanol y ddinas. Fe'i adeiladwyd ym 1897. Ers hynny mae'r theatr wedi darparu amrywiaeth o ddigwyddiadau diwylliannol ac artistig i drigolion Abertawe a'r ardal. Erbyn heddiw mae dros 500 o berfformiadau yn cael eu cynnal yma'n flynyddol. Theatr y Grand yw theatr hynaf Abertawe a dywedir bod ysbryd merch mewn gwyn yn crwydro'r adeilad heddiw.

Mae'n debyg mai'r adeilad sy'n denu'r nifer fwyaf o bobol i'r ddinas heddiw yw'r Brifysgol. Sefydlwyd Prifysgol Cymru Abertawe ym 1920. Saif y Brifysgol ar dir parc ar lan y môr rhwng canol y ddinas a'r Mwmbwls. Heddiw mae dros 10,000 mil o fyfyrwyr yn astudio yma.


Cerdded

Neuadd y Brangwyn

Abertawe

Taith Doctor Who a Torchwood yng nghanol y ddinas a'r Chwarter Arforol.

Enwogion

Cerflun o Dewi Sant yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd

Dewi Sant

'Gwnewch y pethau bychain' oedd geiriau enwog Dewi Sant.

Cestyll

Castell Caerdydd

Oriel y 10 Uchaf

Lluniau o'r deg castell mwyaf poblogaidd yng Nghymru.

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.