Roc a R么l yn Cyrraedd Cymru
In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions
Ymateb gwyllt pobl ifanc Cymru i ddyfodiad roc a r么l yn y 1950au.
Nodiadau Dysgu
Ystod Oedran : 11-14,14-16,16+
Pwnc : Hanes
Testun : Hanes Cymru a Lloegr 1880-1980, Cymru a Phrydain fodern, Byd modern, Byd yr ugeinfed ganrif
Allweddeiriau : Datblygiad Cymru 1900-2000, Roc a R么l, Cerddoriaeth pop, Miwsig pop Saesneg, Elvis Presley, Bill Haley, Radio Luxembourg, Diwylliant poblogaidd, Jeifio, Diwylliant ieuenctid
Nodiadau :
CYFNOD/CYRSIAU/PYNCIAU:
CA3: Sut mae rhai unigolion a digwyddiadau'r ugeinfed ganrif wedi llunio ein byd ni heddiw.
TGAU: Byd yr ugeinfed ganrif. Datblygiad Cymru 1900-2000. Hanes cerddoriaeth yng Nghymru.
Safon Uwch: Agweddau ar hanes Ewrop 1880-1980. Hanes diwylliant ieuenctid yng Nghymru.
Bagloriaeth Cymru: Cymru, Ewrop a'r Byd.
CYFLEOEDD I DDATBLYGU SGILIAU HANESYDDOL: Disgrifio ymateb pobl ifanc yn eu harddegau. Defnyddio'r clip i nodi'r rhesymau pam y byddai rhieni wedi gwrthwynebu'r diwylliant poblogaidd newydd. Sbarduno ymholiad pellach i ddatblygiad diwylliant poblogaidd yn ail hanner yr ugeinfed ganrif. Ystyried sut y dylanwadodd datblygiadau technolegol ar ddiwylliant poblogaidd yn ystod yr ugeinfed ganrif.
CYFLEOEDD I DDATBLYGU SGILIAU EHANGACH: Ysgogi gwybodaeth a dealltwriaeth flaenorol am ddiwylliant poblogaidd pobl ifanc yn eu harddegau a datblygiad cerddoriaeth boblogaidd. Datblygu geirfa/iaith.
AWGRYMIADAU AR GYFER GOSOD MEINI PRAWF LLWYDDIANT: Ddylai myfywyr yn gallu: 1) Deall fod datblygiad roc a r么l wedi cael effaith ar fywyd pobl ifanc yn eu harddegau yng Nghymru. 2) Deall fod gan rai pobl agweddau negyddol tuag at dwf cerddoriaeth boblogaidd.
Mwy
Cysylltiadau'r 麻豆约拍
Hanes Cymru
Creu'r genedl
Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.