Â鶹ԼÅÄ

Ymgyrchu dros Hawliau Menywod

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

Dulliau gweithredu'r mudiad cenedlaethol Swffragetiaid yng Nghymru.

Cyflwyniad i fudiad cenedlaethol y Swffragetiaid a oedd yn hyrwyddo hawliau menywod, y gefnogaeth iddynt yng Nghymru a'u dulliau gweithredu.
O: Y Gymraes Wleidyddol
Darlledwyd yn gyntaf : 15 Mawrth 2004

Nodiadau Dysgu

Ystod Oedran : 11-14,14-16,16+

Pwnc : Hanes, Cymdeithaseg

Testun : Hanes Cymru a Lloegr 1880-1980, Cymru a Phrydain fodern, Gwleidyddiaeth Cymdeithas 1918-1939, Cymuned a ddiwylliant, Byd yr ugeinfed ganrif,

Allweddeiriau : Y newid yn rôl a statws menywod yng Nghymru a Lloegr o 1900 hyd heddiw, Newid a gwrthdaro yng Nghymru, tua 1900-1919, Cymru Ewrop a'r Byd, Pleidlais i fenywod, Swffragetiaid, Ymgyrch Swffragetiaid

Nodiadau : CYFNOD/CYRSIAU/PYNCIAU:
CA3:
Sut mae rhai o unigolion a digwyddiadau'r ugeinfed ganrif wedi llunio ein byd ni heddiw.
TGAU: : Y newid yn rôl a statws menywod yng Nghymru a Lloegr o 1900 hyd heddiw. Cymru a Lloegr ar ddechrau'r ugeinfed ganrif, 1900-1919.
Safon Uwch: Cymru a Lloegr, tua 1880-1980. Newid a Gwrthdaro yng Nghymru, tua 1900-1918.
Bagloriaeth Cymru: Cymru, Ewrop a'r Byd.
CYFLEOEDD I DDATBLYGU SGILIAU HANESYDDOL: Disgrifio sut y bu rhai menywod yn ymgyrchu i gael y bleidlais a chydraddoldeb gwleidyddol. Sbarduno ymholiad pellach i'r prif fudiadau oedd yn hyrwyddo hawliau cyfartal i fenywod. Ystyried sefyllfa menywod heddiw a'r datblygiadau o ran newid gwleidyddol/economaidd/cymdeithasol.
CYFLEOEDD I DDATBLYGU SGILIAU EHANGACH: Datblygu sgiliau meddwl a llafaredd drwy lunio dadl o blaid dulliau ymgyrchu un o'r mudiadau dros hawliau menywod. Ysgogi gwybodaeth flaenorol drwy ystyried y newidiadau yn rôl a statws menywod yng Nghymru a Lloegr yn ystod yr ugeinfed ganrif. Dod i ddeall geirfa neu dermau arbenigol. Datblygu dealltwriaeth emosiynol drwy ystyried pam roedd menywod yn barod i weithredu'n dreisgar i dynnu sylw at eu hachos.
AWGRYMIADAU AR GYFER GOSOD MEINI PRAWF LLWYDDIANT: Ddylai myfyrwyr yn gallu: 1)Deall y dulliau a ddefnyddiwyd gan fenywod yn yr ymgyrch i gael y bleidlais. 2) Deall fod amrywiaeth o grwpiau menywod yn trefnu protestiadau a'u bod yn gweithredu mewn gwahanol ffyrdd. 3) Deall pam roedd protestiadau milwriaethus yn digwydd yng Nghymru.


Gwylio a gwrando

Protest Cymdeithas yr Iaith

Cymru a Phrydain

Clipiau fideo addysgol am Gymru a Phrydain yn yr 20fed Ganrif.

Crefydd

Delw Cristnogol mewn carreg

Oes y Seintiau

Cymru yng nghyfnod Dewi Sant a'r Cristnogion Celtaidd cynnar.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc © Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

RhyfeddOD

Mynwent

Ysbrydion

Straeon ysbryd a chlipiau fideo a sain o bob cwr o Gymru.

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.