Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Trawsfynydd
Yr Ysgwrn Taith i'r Ysgwrn
"Mae Ellis Humphrey Evans, neu Hedd Wyn i chi a fi, yn un o arwyr mwyaf Cymru," ysgrifenna Siwan Davies o Lanybydder.
"Aeth i ymladd dros ei wlad, a chael ei ladd cyn gwybod ei fod wedi ennill cadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Penbedw. Y Gadair Ddu.

Cafodd y gadair ei chludo gyda thrên i Drawsfynydd ac yna gyda throl a cheffyl i'r Ysgwrn. Aeth criw o Ysgol Llambed i'r fan a'r lle i weld y gadair enwog honno. Roedd yn fraint cael gweld cadair bardd, na welodd o ei hun. Roedd yn anrhydedd cael siarad â nai Hedd Wyn, Gerald, mab ei chwaer, a Huw, ffrind Gerald o Drawsfynydd.

Y gadair ddu Hedd Wyn oedd yr hynaf o'i deulu, ac Ann, mam Gerald oedd yr ieuengaf, felly nid oeddent yn 'nabod ei gilydd yn dda iawn. Bu farw Ann yn ifanc, felly cafodd Gerald lawer o wybodaeth am Hedd Wyn gan ei fam-gu.

Pan oedd Ellis, brawd Gerald byw, fe oedd yn y parlwr yn siarad am y chwe chadair eisteddfodol hardd, gyda Gerald yn y gegin. Erbyn hyn, Huw sydd yn y gegin yn sôn am sut yr oedd y teulu o dri-ar-ddeg yn byw, a Gerald yn y parlwr.

Enillodd Hedd Wyn ei gadair gyntaf yn ddeunaw oed, ar ôl dim ond chwe blynedd o addysg. Cred Gerald fod hyn yn fwy o gamp o lawer na'r Gadair Ddu, gan ei fod mor ifanc ac yn cystadlu yn erbyn pobl llawer hŷn.

Eglurodd Gerald yn fanwl wrthym am ystyr y cerfluniau ar y gadair fawr ddu. Cafodd ffoadur o Wlad Belg, Eugeen Vanfleteren, chwe mis i gynllunio, i gasglu'r pren ac i wneud y gadair hardd. Gwnaeth lyfr yn nodi ystyr yr holl gerfluniau ond yn anffodus, fe wnaeth rhywun gael ei fenthyg, a ni chafwyd y llyfr yn ôl. Felly nawr, mae Gerald yn adrodd hanes y cerfluniau o symbolau Celtaidd a Chymreig o'i gof i'r llu ymwelwyr sy'n gwneud y siwrne ar hyd y llwybr anghysbell i'r Ysgwrn.

Clywsom holl hanesion am sut oedd y teulu wedi byw yn y gegin fach dywyll gan Huw, yn coginio bisgedi ceirch ac yn defnyddio pob diferyn o'r llaeth yn cynnwys y llaeth enwyn, yn berwi dŵr ar dân agored enfawr ac yn smwddio gyda'r haearn trwm, du. Dangosodd Huw beth oedd tu ôl y drws yn arwain o'r gegin. Dyna lle'r oedd morwynion oddeutu tair ar ddeg mlwydd oed yn byw, gan ddod allan i weithio yn y gegin ac ar y fferm.

Nid oedd Gerald yn hoff o'r ffilm am fywyd Hedd Wyn, (a gafodd ei enwebu am Oscar), gan ei fod wedi ei greu er mwyn diddanu cynulleidfa'r sinemâu, gan gynnwys golygfeydd o yfed, mercheta a bywyd cymdeithasol.

Yn ôl Gerald, nid oedd hwn yn ddarlun cywir o Hedd Wyn: byw bywyd syml oedd ef bob amser.

Braint oedd cael cwrdd â nai Hedd Wyn, a gwrando ar ei atgofion a'r pethau oedd ef wedi dysgu wrth ei deulu am berson mor enwog yng Nghymru."

Gan Siwan Davies

  • Bywgraffiad o Hedd Wyn
  • Llyfr Lloffion yr Ysgwrn
  • Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng Â鶹ԼÅÄ Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Am fwy o fanylion ac i wybod sut fedrwch chi ennill £30 am ysgrifennu - cliciwch yma.


    Cyfrannwch

    Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


    Lleol i Mi
    Radio Cymru
    Llyfrau


    About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý