Βι¶ΉΤΌΕΔ

Explore the Βι¶ΉΤΌΕΔ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

Βι¶ΉΤΌΕΔ Βι¶ΉΤΌΕΔpage
Βι¶ΉΤΌΕΔ Cymru
Βι¶ΉΤΌΕΔ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
Β»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Βι¶ΉΤΌΕΔ Vocab
OFF / I FFWRDD
Β» Turn ON
Troi YMLAEN
Β» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Μύ

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Μύ
Penmaenmawr
Foel Lus uwchben Penmaenmawr. Llwybr Huw Tom
Dewch am dro ar hyd Llwybr Huw Tom - er cof am y gwleidydd a'r undebwr llafur, Huw T. Edwards - yng nghwmni Dennis Roberts o Benmaenmawr.
"Ar hyn o bryd, mae'r gymdeithas hanes yn gwneud ein gorau i wella'r pentref gan ei fod wedi colli'r twristiaid - mae pobl isho haul y dyddiau yma. Rhaid gweld beth sydd ganddon ni i'w gynnig, ac fel lle i gerdded yw'r peth mwyaf amlwg, fel rhyw lidiart i Eryri. Mae yna gymaint o lefydd o bwys i ymweld ΓΆ nhw ac, ar hyn o bryd, rydym yn creu llwybr Huw Tom, sy'n mynd o Benmaenmawr i Rowen.

Ganwyd Huw Tom Edwards yn Rowen, er iddo fyw y rhan fwyaf o'i oes yn Mhenmaenmawr. Roedd yn ddyn o bwys mawr yn y 1850au a'r 1960au

Er na chafodd lawer o addysg, aeth i weithio yn chwareli Penmaenmawr a phyllau'r de cyn mynd ymlaen i godi'n uchel ym myd yr undebau. Daeth yn gadeirydd yn nyddiau cyntaf teledu annibynnol yng Nghymru (TWW), roedd ar Fwrdd Croeso Cymru a phob math o fyrddau eraill!

Huw T Edwards (Llun drwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru) Roedd hefyd yn fardd ac yn ysgrifennwr.

Ond fel bachgen 14 oed byddai'n cerdded dros y mynydd o Rowen i'r chwarel ym Mhen efo'i dad ac rydym am ddefnyddio'r ffordd yma fel ffordd tywys ar y mynyddoedd.

Byddwn yn gosod cerrig i ddangos y ffordd a 'sgwennu tablau i helpu pobl i ddilyn y ffordd. Bydd yn gadael o ganol Pen, i fyny'r mynydd heibio Ty'n Ffridd, cartref ei nain a'i daid, croesi afon Gyrach, a draw i Rowen, lle ganwyd o a lle cafodd rywfaint o addysg.

Bydd yn llwybr hanesl ac yn llwybr llenyddol gobeithio hefyd gan ein bod yn gobeithio defnyddio rhywfaint o'i farddoniaeth ar hyd y ffordd.

Mae pawb yn sΓ΄n am Gladstone a Phenmaenmawr, ond mae yna Gymry lleol o bwys wedi byw yma hefyd, a rhaid i ni eu dathlu."



Lleol i Mi
Radio Cymru
Theatr


About the Βι¶ΉΤΌΕΔ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Μύ