Eisteddfod 2009 ar y Βι¶ΉΤΌΕΔ.
Roedd yna gaer Rufeinig enfawr yn Llanfor, o dan safle'r eisteddfod yn 1997 a 2009.
Rydym yn credu ei bod yn gaer o gyfnod cynnar y Rhufeiniaid yng ngogledd Cymru. Adeiladau pren oedd yna rhan fwyaf; efallai ei fod yn wersyll dros dro i filwyr wrth iddynt symud drwy'r ardal.
Mae o 'mond yn weladwy o luniau o'r awyr neu brofion geoffisegol. Ond roedd y canlyniadau o archwiliadau o'r fath yn un o'r rhai gorau dwi erioed wedi gweld.
Y mae profion geoffisegol yn nodi newidiadau yng nghyflwr magnetig y pridd. Er enghraifft, os gymerwch gae nad yw neb wedi ymyrryd a fo ers cyfnod y rhewlifol, neu lifiadau'r afonydd yn yr ardal yma, mi fydd y pridd yr un fath reit ar draws y cae.
Ond os yw rhywun wedi cloddio yn y cae, ac felly wedi ymyrryd ΓΆ'r uwchbridd, neu os yw rhywbeth wedi cael ei losgi ar y tir, mae'n bosib pigo fyny'r newidiadau yn yr ocsidiau magnetig.
Rydym yn cymryd darlleniad bob rhyw 50 cm ar draws y cae, ac felly yn gallu creu darlun o'r hyn sydd wedi newid yn y tir dros y canrifoedd. Oherwydd y math o bridd sydd yn Llanfor, mae'n bosib gweld amlinelliad pob adeilad o fewn y gaer, ac ystafelloedd o fewn yr adeiladau yna.
Mae o jest yn bosib gweld amlinelliad y gaer gyda'ch llygad, os ydych yn gwybod yn union ym mhle i edrych.
Cafodd y gaer yma ei phigo fyny ar ddamwain! Roedd archeolegwr ar ei ffordd nΓ΄l yn ei awyren, ar Γ΄l iddo archwilio Caer Gai, caer Rufeinig arall ar ochr arall Llyn Tegid, pan sylweddolodd ar Lanfor. Roedd yn ystod y sychder mawr yn 1976 pan gafodd sawl lle fel hyn ei ddarganfod.
Aethom yn Γ΄l i Lanfor cyn Eisteddfod Genedlaethol 1997 i sicrhau na fyddai dim yn cael ei ddifrodi wrth gynnal yr Εµyl. Mae'n rhaid gyrru angorau enfawr i mewn i'r pridd wrth godi'r pafiliwn, felly ddaru'r eisteddfod ei gosod ar dir lle nad oes gweddillion Rhufeinig. Mi fydd rhan fwyaf o'r hen gaer o dan y maes parcio.
Mae yna hefyd safleoedd claddu o'r Oes Efydd ger maes yr eisteddfod, yn ogystal ΓΆ rhywbeth gall fod yn gaer Canol Oesol. Mae'n bosib y bydd yna archeolegwr yn cloddio'r man yma yn ystod yr eisteddfod yn 2009.
Mae gan safle'r eisteddfod yn y Bala sicr hanes unigryw iddo.
Dave Hopewell
Cofio Eisteddfod y Bala '97.