Βι¶ΉΤΌΕΔ

Explore the Βι¶ΉΤΌΕΔ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

Βι¶ΉΤΌΕΔ Βι¶ΉΤΌΕΔpage
Βι¶ΉΤΌΕΔ Cymru
Βι¶ΉΤΌΕΔ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
Β»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Βι¶ΉΤΌΕΔ Vocab
OFF / I FFWRDD
Β» Turn ON
Troi YMLAEN
Β» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Μύ

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Μύ
'Chwalfa'r Garnedd Lwyd - Mrs M K Morgan a Leslie Hughes, gydag Efan Jones yn ochneidio yng nghysgod y drws'. (Drwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru - casgliad Geoff Charles). Taith ola'r fan fara
Os gwelwch chi hen ffilm o Gapel Celyn cyn cael ei foddi, mae'n debyg y bydd yn dangos Michael Clayton Williams, gynt o'r Bala, yn gwneud ei daith olaf trwy Gwm Tryweryn yn ei fan nwyddau cyn i'r gymuned adael.

Bellach yn byw yn Rhuthun, mae'r diwrnod yn dal yn fyw iawn yn nghof Mr Williams:

"Roedd fy nheulu'n arfer rhedeg siop yn y Bala. Gan ein bod yn gwerthu pysgod, Wil Fish oedd fy nhad - neu Wncl Wil i bawb yng Nghapel Celyn.

"Mi fyddwn i yn gyrru'r fan o amgylch y wlad yn gwerthu nwyddau ac yn gwneud y siwrne bob dydd Llun a dydd Iau gan gychwyn i fyny drwy Llidiardau, draw am Fryn Ifan ac i lawr am Fryn Celyn.

"Roedd gen i drefniant efo prifathrawes Ysgol Capel Celyn, Mrs Edwards, i stopio y tu allan i ysgol y pentre ac mi fyddai'r plant yn rhedeg allan i wario eu ceiniogau. Wagon Wheels oedd y peth mawr ar y pryd!

"Daeth PathΓ© News i ffilmio hanes y ffermydd cyn i'r argae ddod. Mi ddaru nhw ofyn os buaswn i'n meindio eu bod yn ffilmio'r fan, ac mae'r archifau o hanes Tryweryn wastad yn fy nangos i yn fy fan, a phlant fferm Tynant yn prynu torth yr un - roedden nhw'n dorthau mawr, pedwar pwys yr un yr adeg honno.

"Roedd tua phymtheg o blant yn fferm Tynant, yn byw mewn dim ond tri neu bedwar 'stafell. Mae plant Tynant wedi chwalu i bob man erbyn hyn.

"'Dwi'n cofio adeg y tywydd sych yn y 1980au pan ddaeth Capel Celyn i'r golwg unwaith eto. Mi ddaeth ag atgofion o'u gweld nhw'n symud y cerrig beddi a phopeth yn Γ΄l i mi."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Βι¶ΉΤΌΕΔ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Βι¶ΉΤΌΕΔ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Μύ