"Roedd sawl ewythr ar ochr fy mam yn gweithio lawr y pwll ac roedd fy nhaid - Peter Roberts o Gwespyr - hefyd yn gweithio yn y Parlwr Du.
"Fe oedd y glowr gyda'r gwasanaeth hiraf yn y pwll. Nid wy'n siwr ond mae'n bosib iddo weithio yno am 70 mlynedd.
"Cafodd ei wobrwyo gyda medal y BEM - y British Empire Medal.
"Y stori 'dwi 'di clywed yw na gafodd ei wahodd, ond yr hanes gan aelodau eraill o'r teulu yw nad oedd yn methu mynd i Lundain oherwydd iddo golli ei wraig - fy nain.
"Mae'n debyg iddynt ddod i ogledd Cymru i'w wobrwyo gyda'r BEM.
"Enillodd fy nhad ysgoloriaeth addysg, ond yn 14 oed gwrthododd taid iddo fynd - roedd rhaid iddo fynd lawr y pwll.
"'Dwi'n meddwl mai fo oedd yr unig fab aeth lawr y pwll.
"Doedd o ddim eisiau mynd lawr y pwll - roedd hi'n waith caled.
"Roedd o'n rhwystredfig oawn ac roedd yn casau gweithio lawr y pwll.
"Ar Γ΄l priodi fe aeth i weithio ar y rheilffyrdd ac fe ail-gydiodd yn ei addysg yn hwyrach ymlaen."
|