"Roedd hi'n galed iawn - ond dyna oedd bywyd. Doedda' ni ddim yn cael llawer.
"Y pyllau glo oedd en bywyd - doedd 'na ddim byd arall ar ein cyfer. Byddai'r merched yn gweithio yn y diwydiant crochenwaith.
"Gweithiodd fy nhad 53 mlynedd ac i gyd gafodd oedd tystygrif a hanner coron y mis.
"Gwnes i weithio am tua 40 mlynedd ac ar Γ΄l dioddef anaf i'm llygad, bu'n rhaid i mi ymddeol.
"Ges i ddim iawndal am fy anaf ac es i weithio gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn.
"Weithiau byddai'n rhaid i mi fod lawr y pwll am 14 awr.
"Priodias ym 1950 ac roeddwn wedi bod yn astudio mwyngloddiaeth am nifer o flynyddoedd.
"Roedd hynny'n costio saith swllt am hanner blwyddyn. Roeddwn yn mynd dwy waith yr wythnos ac yn cerdded tair milltir yno a thair milltir yn Γ΄l i fynd i'r ysgol nos.
"Cefais fy mhapurau i ddod yn overman a cymwyster ail ddosbarth i ddod yn rheolwr.
"Roeddwn yn mwynhau'r gwaith ac ar Γ΄l i mi ymddeol, bu'r pobl fu'n gweithio i mi yn dod i'm gweld yn gofyn fy nghyngoir am gwahanol bethau.
"Dyn oeddwn i yn ei wneud gyda fy nhad, gofyn am ei gyngor.
"Roeddwn yn aelod o'r band press. Roedd hynny'n rhywbeth oedd yn mynd 'mlaen yn y pentref.
"Roedd bandiau ymhobman bryd hynny."
|