Arbrawf ffôn symudol
Canlyniadau'r Eisteddfod a'r gigs ar eich ffôn symudol.
Waeth lle'r ydych chi - does dim rhaid ichi golli dim o'r Eisteddfod eleni - os oes gennych ffôn symudol.
Diolch i wasanaeth arbrofol newydd sbon gan Â鶹ԼÅÄ Cymru ar gyfer yr Eisteddfod, mae holl ganlyniadau'r dydd ar y we, gwybodaeth am gigs a digwyddiadau a gwybodaeth am y tywydd i'w gweld ar eich ffôn symudol.
Dyma'r tro cyntaf i Â鶹ԼÅÄ Cymru gynnig gwasanaeth o'r fath o'r Eisteddfod.
Dyma'r hyn allwch eich gael ar eich ffôn lle bynnag a b'och.
- Canlyniadau diweddaraf o'r Maes ar eich ffôn symudol
- Rhestr gigs Eisteddfod C2
- Tywydd: rhagolygon y Maes
- Newyddion
- Pobol y Cwm: yr wythnos hon
- Radio Cymru: rhaglenni heddiw
- Big Welsh Challenge: termau Cymraeg i ddysgwyr
Sut mae'n gweithio?
Cam 1
Tecstiwch CYMRU i 81010. Bydd y Â鶹ԼÅÄ yn danfon neges tecst yn ôl atoch chi gyda linc at http://www.bbc.co.uk/symudol/. Bydd hwn yn ymddangos fel neges yn cynnwys linc, 'WAP push', neu 'service message inbox'.
Cam 2
Agorwch y neges er mwyn mynd at y linc a llwytho'r tudalen. Byddwch chi'n cysylltu â'r we symudol ac yn cyrraedd gwefan symudol arbrofol Â鶹ԼÅÄ Cymru.
Cam 3
Cofiwch roi 'bookmark' ar yr hafan ddalen www.bbc.co.uk/cymru/symudol/
Er gwybodaeth
Mae cost pob neges destun rhwng 10c-15c yn dibynnu ar eich darparwr. Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn codi tâl am gynnwys symudol ond fe fydd eich darparwr yn codi tâl. Fe all darparwyr godi am y cyfnod y byddwch yn edrych ar y we neu am y data a lawr lwythir. Cysylltwch â'ch darparwr er mwyn cael gwybodaeth am yr union gostau. Ni all y Â鶹ԼÅÄ sicrhau y bydd y neges wap hon yn gweithio ar eich ffôn chi. Hyd ag y mae'r ddeddf yn caniatau mae'r Â鶹ԼÅÄ yn ymwrthod ag unrhyw gyfrifoldeb am golled neu ddifrod.