Â鶹ԼÅÄ

Côr Aelwyd Hamdden Caerdydd, y côr pensiynwyr buddugol 2007

Corau ar i fyny

Canmol y niferoedd

Mae mwy o gorau wedi addo cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni nag ers sawl blwyddyn.

Cystadlaethau eraill hynod boblogaidd yw y ddwy gystadleuaeth unawd o sioe gerdd gyda 90 wedi anfon eu henwau i mewn.

Croesawyd y ffigurau calonogol gan Huw Llywelyn Davies, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod mewn cyfarfod o Gyngor yr Eisteddfod ddiwedd Mehefin.

"Y newydddion da yw fod cyfanswm yr holl gystadlu yn debyg iawn i'r eisteddfodau diweddar a'r apêl i'r cystadleuwyr yw iddynt droi fyny!" meddai

"Mae cyfanswm y corau yn yr adran gerdd yn 43 - sef y mwyaf ers sawl blwyddyn, gydag 14 o gorau meibion a phump o gorau pensiynwyr; pum côr cerdd dant, 20 o fandiau pres.

"Hefyd, mae pedwar grwp yng nghystadleuaeth Lois Blake yn yr adran ddawns a 10 parti llefaru," meddai.


Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.