Â鶹ԼÅÄ

Trafodaeth eisteddfiodol - Hywel Wyn Edwards, trefnydd, Elfed Roberts, Cyfarwyddwr

Gwenu yn y glaw

Cofio'r wynebau heulog yn hytrach na'r glaw!

Glawio, Gwario a Gwenu

Er i law a mwd wneud cymaint o argraff yn ystod yr wythnos y tebygrwydd yw mai fel "Eisteddfod y Gwenu" yn hytrach nag fel Eisteddfwd y bydd Eisteddfod GenedlaetholCymru Caerdydd a'r Cylch 2008 yn cael ei chofio.

Y gwenau ar wynebau ymwelwyr â'r Maes a wnaeth argraff ar Elfed Roberts y Cyfarwyddwr, yn sicr, gan iddo sôn am hynny sawl gwaith yn ystod yr wythnos.

Ac mae'n wir, os nad oedd yr awyr bob amser yn heuluog, yr oedd yr wynebau o bob oed yn rhai heulog iawn.

Cymaint â 156,697 o wynebau i gyd yn ystod yr wythnos - bron i ddwy fil yn fwy na'r llynedd (154,944) ac ar y blaen i Abertawe ddwy flynedd yn ôl hefyd (157,697).

A phe byddai'r tywydd wedi dal ar gyfer y Sadwrn does dim amheuaeth na fyddai Caerdydd yn sylweddol well.

Yn ôl y disgwyl, mewn glaw dibaid, dyma ddiwrnod gwaethaf yr wythnos gyda dim ond 15,167 o ymwelwyr o gymharu â 19,184 yn Yr Wyddgrug y llynedd, 19,277 yn Abertawe a 19,389 yn Eryri dair blynedd yn ôl.

Arwydd o lwyddiant Caerdydd yw iddi fedru goresgyn y diwrnod gwan hwn - ac mae'n ffodus mae'n debyg mai diwrnod y corau oedd hui a hynny yn sicrhau bod nifer fawr o gystdadleuwyr os nad neb arall ar y maes.

Ond yr arwyddion yw na fydd yn rhaid disgwyl 30 mlynedd arall cyn y bydd y brif ŵyl yn dychwelyd i'r brif ddinas.

Digwyddiadau nodedig

Nid ffigurau yw popeth wrth gwrs a bu sawl digwyddiad nodedig ar y Maes ac yn y Pafiliwn yn ystod yr wythnos ond y mwyaf arbennig o ddigon fu cael Cadeirio gyda chymaint o ddarogan gwae wedi bod oherwydd newyn cadeirio yng Nghaerdydd.

Nid yn unig bu Cadeirio ond cadeiriwyd merch, Hilma Lloyd Edwards - yr ail yn unig yn holl hanes yr Eisteddfod.

Hilma Lloyd Edwards

Ar ben hynny, dywedodd y beirniaid y gellid fod wedi cadeirio o leiaf dri arall!, gryfed oedd y gystadleuaeth.

Dim rhyfedd i'r Archdderwydd Dic Jones ddweud i "fwgan Caerdydd" gael ei lorio!

Carreg filltir fenywaidd arall yr Ŵyl oedd anrhydeddu Mererid Hopwood â'r Fedal Ryddiaith - a hynny ar ddydd pen-blwydd un o'i merched yn 18 oed.

Mererid Hopwood

Ddiwrnod ei anrhydeddu yr oedd hi yr unig ferch i ennill y Gadair - roedd Hilma eto i ddod - ond mae hi'n dal yr unig ferch i ennill y tair brif wobr lenyddol gan rannu'r anrhydedd honno gyda Gwilym R Jones a Tom Parri Jones, Tom TÅ· Pigyn.

Uchelbwyntiau eraill

Enillwyr ifainc y Goron a'r Daniel Owen.
Meirion Wyn Jones, Llangynhafal, Sir Ddinbych, ac aelod o Gôr Rhuthun, yn ennill y Rhuban Glas ar yn ail dro.
Côr Meibion Pontarddulais yn fuddugol yng ngystadleuaeth y corau dros 45 o leisiau.
Cordydd yn cael ei ddewis yn Gôr yr Ŵyl.

Gwenno Glyn, ddeuddeg oed, yn cipio'r Rhuban Glas Offerynnol dan 16 oed.
Sion Ifan yn ennill Gwobr Goffa Richard Burton.
Peiriannau arian yn ôl ar y Maes cael eu colli ers rhai blynyddoedd. Tynnodd Eisteddfodwyr £200,000 erbyn bore Sadwrn yn ôl HSBC.


Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.