Â鶹ԼÅÄ

Dawns flodau cyhoeddi Eisteddfod Y Bala

Edrych ymlaen at Y Bala

Wynebu her cwbl wahanol

Wedi hel 70% o'r arian lleol

Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol mewn ardal cwbl wahanol y flwyddyn nesaf - ar ei thrydydd ymweliad â'r Bala.

Bu yno o'r blaen yn 1967 ac yn 1997 ac fe fydd Eisteddfod 2009 yn cael ei chynnal ar yr un Maes ag un 1997.

Doedd cadeirydd y pwyllgor Gwaith, Elfyn Llwyd AS, ddim yng Nghaerdydd, i sôn am y paratoadau ond yn Croatia ar wyliau ond dywedodd Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod, y bydd Y Bala yn cynnig "sialens wahanol" iddo ef a'r tîm.

"Mae'n ardal sy'n adnabod Eisteddfod ac yn agos iawn at y lleoliadau diweddar yr ydan ni wedi bod yno, " meddai.

"Rydan ni'n gobeithio y bydd ein ffrindiau yn dod draw, felly hefyd y ffrindiau a wnaed yng Nghaerdydd eleni a gobeithio y gallwn ddathlu Cymreictod a diwylliant efo gwên yn hytrach na chwyno," Meddai.

Mae'r gwaith codi arian wedi cychwyn yn Y Bala ers dechrau'r flwyddyn gyda dros 70% o'r gronfa leol wedi ei sicrhau.

"Bydd y gwaith yn dechrau ym mis Medi ar drefnu cyngherddau, sy'n mynd i fod yn sialens yn dilyn cyngherddau eleni," meddai Mr Roberts.

"Mae angen cyngherddau apelgar ac rydym yn ffyddiog y byddwn yn llwyddo," ychwanegodd.

Glynebwy 2010


Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.