Â鶹ԼÅÄ

Bws

Steddfod bws a thrên

Galw ar steddfodwyr i hepgor eu ceir

Daeth mwy nag un alwad am i bobl ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer ymweld â'r Eisteddfod - ac yn sicr yn ystod eu arhosiad yn y Brifddinas.

"Mi fydd yn hwylus iawn dod i Gaerdydd ac mi rydym yn dal i bwyso i gymaint ag y medr ddefnyddio trafnidaeth gyhoeddus i ddod yma ac i fynd a dod yn y ddinas," meddai Huw Llywelyn Davies, cadeirydd pwyllgor gwaith yr Eisteddfod.

Dywedodd y bydd angen i rai sy'n teithio yno mewn car barcio ar y cyrion yn ardal Leckwith a dal bws wennol i'r maes gan na fydd unrhyw gyfleusterau parcio ger yr Eisteddfod.

Yn dilyn trafodaeth gyda Chyngor Caerdydd, mae'r pris o adael y car a dod ar y bws wedi ei ostwng i £3 y car.

Dywedodd Mr Davies hefyd ei bod yn bosibl i rai sy'n teithio ar dren brynu tocyn a fydd yn sicrhau eu cludo o'r orsaf ganolog i'r maes a mynediad i'r maes ei hun.

Gall rhai dros eu 60 oed ddefnyddio eu tocynnau bws i deithio am ddim o fewn y ddinas.


Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.