Â鶹ԼÅÄ

Rhan o glawr yr argraffiad newydd

Diweddarau camp Roy Stephens

Ychwanegu 5,000 o eiriau

Ar faes Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 1978 yr oedd llyfr ar werth nas gwelwyd ei debyg yn y Gymraeg ers diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Dyma Yr Odliadur gan Roy Stephens - cyfrol a ddisgrifiwyd ar y pryd gan T Llew Jones fel
Odliadur di-ail ydyw
Mawr ei werth i'r Cymry yw.

T Llew Jones dynnodd sylw hefyd at y ffaith mai dyma'r unig gyhoeddiad o'i fath ers cyhoeddi Geiriadur Bardd Cynddelw yn 1874 - y geiriadur odi Cymraeg cyntaf erioed.

Cyfaill da

Er 1978 bu'r Odliadur na chostiai ond £2 ar y pryd yn gyfaill da i feirdd ei gael mewn cyfyngder odli.

Yn awr, ar faes Eisteddfod Caerdydd 2008, mae diweddariad yn gweld golau dydd, Yr Odliadur Newydd, ac yn cynnwys 5,000 yn fwy o eiriau na'r gyfrol gyntaf.

Mae hefyd o rwymiad llawer sicrach - clawr caled stowt o gymharu ag un llipa 1978.

Bydd hwn yn costio £12.99 - sydd heb fod yn ormod o dreth ar boced y mwyaf tila o feirdd siwr o fod!

I Alan Llwyd y mae'r diolch am y diweddariad - ef eisoes wedi ennill ei Gadair a'i Goron ddwbl ddwywaith cyn 1978 - ond mae'n prysuro i ddweud mai cyfrol Roy Stephens yw hon o hyd.

"Y nod, yn syml, oedd troi'r gyfrol wreiddiol werthfawr yn un fwy gwerthfawr a mwy cynhwysfawr fyth," meddai Alan gan ychwanegu:

"Penderfynais o'r cychwyn na fyddwn yn ymyrryd â llyfr Roy mewn unrhyw fodd, o barch iddo, ac oherwydd mai llyfr Roy oedd Yr Odliadur, a ffrwyth ei lafur enfawr ef."

Cemegydd

Bu farw Roy Stephens yn ddyn ifanc yn 1989, ddeng mlynedd wedi cyhoeddi'r gyfrol wreiddiol. Yn frodor o Frynaman, Sir Gaerfyrddin, yr oedd yn ffigur poblogaidd yng nghylchoedd beirdd hyd yn oed cyn cyhoeddi ei gyfrol arloesol.

Cemeg oedd ei faes yn y coleg yng Nghaeer-grawnt ond dechreuodd ymddiddori yn y canu caeth pan ymunodd â Chofrestrfa Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth yn 1971 ac ef oedd ysgrifennydd cyntaf cymdeithas Barddas.

Bu ei ddosbarthiadau cerdd dafod yn rhai poblogaidd iawn yng Ngheredigion ymhlith rhai o bob oed.

Enillodd hefyd radd MA a Doethuriaeth am olygu gwaith William LlÅ·n.

Geiriau llafar da

Ynglyn â'r diweddariad o'r Odliadur dywed Alan Llwyd:

"Ceisiais gynnwys geiriau a allai fod o fudd i'r beirdd, geiriau cydnabyddedig yn yr iaith, a geiriau llafar da. Cynhwysais hefyd rai termau cyfrifiadurol, a rhai bathiadau diweddar, ond rhai yn unig.

"Ni chynhwysais lawer o eoriiau gwyddonol diarffordd. Yr egwyddor yn sylfaenol oedd cynnwys geiriau byw, defnyddiol, gan gynnwys ar yr un pryd rai geiriau newydd ym mjkyd cyfrifiadureg, technoleg a gwyddoniaeth yn gyffredinol."

Cynhwysir yn y gyfiol newydd gyflwyniad T Llew Jones i'r argraffiad cyntaf a rhagymadrodd Roy Stephens ei hun yn ogystal chyflwyniad gan Alan Llwyd i'r argraffiad newydd.

  • Yr Odliadur Newydd gan Roy Stephens ac Alan Llwyd. £12.99. Gwasg Gomer.


  • Â鶹ԼÅÄ iD

    Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

    Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.